BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageGlyn Wise ar C2
Wythnos Arbennig
Tachwedd 6-10, 2006
Glyn Wise

e-Gofnod Glyn Wise o'i wythnos yn cyd-gyflwyno C2

Llun 6 Tachwedd 2006
Codi bore ma am ddeg o'r gloch, mae gen i annwyd oherwydd heb gael amser i fi fy hun ers gadael ty'r Brawd Mawr, felly nes i fynd allan i siopa ac i brynu ffisig, menyg a sgarff a het, a cefais ddiod o oren a pastra efo gorgimwch ynddo fo i ginio.

P'nawn ma es i draw i wersyll yr Urdd yn y bae, a cael tynnu fy llun efo Mr Urdd a llawer o blant. Yna es i i weld Dafydd Iwan yn y Cynulliad i geisio cael pobl ifanc rhwng 18 - 25 oed i bledleisio i Blaid Cymru yn yr etholiad nesaf. Nes i fwynhau yn enfawr.

Am bump o'r gloch, nes i gyfarfod Sian Alaw a aeth a fi i stiwdio C2 yn y BBC, lle nes i fwynhau fy hun, yn cyd-gyflywno efo Dafydd Du. Sioe Siartiau oedd ganddo ni heno, a nes i fwynhau gwrando a cyflwyno cerddoriaeth gan Bodyrox, Frizbee a Poppies.

Edrych ymlaen ar gyfer gweddill yr wythnos yma ar C2, pan ga i'r cyfle i ddewis fy hoff gerddoriaeth i, a dim cerddoriaeth sydd yn y siartiau, felly gwyliwch allan am hen glasuron Glynaidd!!

Diolch yn fawr am wrando, a diolch am eich cefnogaeth dwi'n ei gael bob diwrnod , mae'n meddwl gymaint i mi, a diolch i bawb wnaeth gysylltu heno.
Wedi blino rwan, yn nol i'r gwesty a fi i gael mwy o ffisig i'r ffliw.
Edrych ymlaen i fynd i Jumpin' Jacks nos fory a hefyd cyflwyno efo Daf Du a Ebbzy ar C2 nos fory.

Nos Da Glyn xxxx


Mawrth 7 Tachwedd 2006
Deffro bore 'ma yn y gwesty tua hanner awr wedi naw, a mynd lawr i gael brecwast (oedd yn neis iawn). Wedyn ganol bore es i draw i weld fy ffrindiau Gwion a Branwen sydd yn y coleg yma yng Nghaerdydd, a tra on'i yno ges i gyfle i fynd ar y we i edrych ar fideos ohonai yn nhy'r Brawd Mawr! (tydw i heb weld llawer o'r rhaglen, gan fy mod mor brysur ar hyn o bryd!)

Mi aeth Gwion a fi allan am ginio, a mi ges i fy hoff fwyd sef brechdan caws a colslo a creision blas halen a finag - mm neis!.
Yn y p'nawn wedyn nes i fynd i siopa a prynu llwyth o bethau neis, fatha 'chain' efo croes arian arno fo, 'beads', het arall a dillad isaf sydd lot rhy fawr i fi!

Am hanner awr wedi pump ges i dacsi o'r gwesty fyny i swyddfa C2. Roedd rhaglen heno yn arbennig o dda, nes i fwynhau cyd gyflwyno ef Dafydd Du a Dylan Ebenezer. Trafod chwaraeon oedden ni heno rhanfwyaf, ond oedd Daf a Dylan yn siarad gormod am beldroed. Yr unig beth dwi'n ei wybod am beldroed ydi fod Ryan Giggs yn chwarae i Gymru! Mi oedd yr ymateb heno yn wych, diolch i bawb wnaeth gysylltu efo negeseuon, a diolch i'r llwyth o wrandawyr di-Gymraeg oedd yn gwrando ar y rhaglen ar y we o lefydd fatha Lerpwl a Stoke am e bostio'r rhaglen.

Ar ôl gorffen ar C2, ges i lifft yn ôl i'r gwesty gan Daf Du, ac yn disgwyl amdanai yno oedd fy rheolwr, oedd yn mynd i fynd a fi i Jumpin' Jaks erbyn hanner nos. Ges i amser arbennig o dda yno. Ar ôl cyrraedd mi wnes i fynd yn syth i'r ardal VIP a cael potel o siampen! Wedyn mi oedd yn rhaid i fi berfformio. Es i ymlaen i'r llwyfan i thema agoriadol Baywatch a dawnsio ar y llwyfan a tynnu fy nghrys. Wedyn mi nes i gymeryd rhan mewn gem oedd yn ymwneud efo aelodau o'r gynulleidfa a balwns!! Mi oedd y gynulleidfa heno yn wyllt!

Mi oedd hi wedi tri o'r gloch y bore arna'i cyrraedd yn ôl i'r gwesty, a mi oeddwn i'n gysgu'n braf erbyn pedwar.

Hwyl
Glyn xxx

Mercher 8 Tachwedd 2006
Codi bore mae yn y gwesty am 8 o'r gloch. Neithiwr ar ol bod yn Jumpin Jaks mi wnaeth Eryl a Gwion fy ffrindiau aros y noson. Tra'n cael brecwast yn y bore mi wnes i dorri'r peiriant sudd oren (heb drio!) a roeddwn yn teimlo'n sâl ar ol bod allan neithiwr. Mi ges i lawr o sylw yn y gwesty bore ma, llwyth o bobl eisiau fy llun, a finau ddim yn edrych ar fy ngorau.

Ar ôl i fy ffrindiau fynd i'r coleg, penderfynais fynd yn ôl i'r gwely tan 1 o'r gloch. Nes i fynd i swyddfa ITV Wales amser cinio i hyrwyddo y ffaith fy mod i yn dewis pwy sy'n ennill cystadleuaeth cardiau Nadolig i blant. Nes i aros yno am fy nghinio hefyd.

P'nawn ma mi fues i ar y ffon efo fy asiant am dros awr yn trafod fy nyfodol.
Mi ddes i draw i swyddfa C2 erbyn 5.30 er mwyn recordio cyfweliad efo BB Aled. Ar ol cinio neis yn y cantin, es i nol i'r swyddfa a dechrau mwydro criw C2.

Mi wnes i fwynhau'r rhaglen heno yn fawr iawn, mi oedd y cwis pop yn hwyl. Llongyfarchiadau Brynrefail!
Ar ôl y rhaglen es i draw i Glwb y BBC efo criw C2, cyn mentro fewn i'r dre. Noson dda iawn! Nos da a diolch am wrando ar y rhaglen a darllen fy nyddiadur.
Cariad
Glyn xxx

Iau 9 Tachwedd 2006
Ar ôl noson fawr neithiwr, nes i ddeffro am 9.30 y bore i gael brecwast - ges i rice crispies a melon - ond ddim yn yr un bowlen! Wedyn nes i fynd am gyfweliad gyda chylchgrawn Red Handed. Fe wnaethant dynnu lawer o luniau - ac roedd rhaid i fi edrych yn moody! (ha ha!)

Ar ôl hynny, es i i gael tan-ffug. Roedd yn rhaid i fi sefyll yn hollol noeth tra roedd y peiraint yn chwistrelli mwg brown ar hyd fy nhgorff. Nes i chwerthin drwyddo ac aeth y mwg i mewn i fy nheg ac roedd gen i dafod brown erbyn gada'l! Dwi'n impressed iawn â'r tan, a fyswn i'n neud e eto.

Es am ginio i Hard Rock Cafe cyn mynd i Ysgol ail-iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Roedd rhaid i fi ateb cwestiynau a chanu'r Gân Wy. Ddes i nôl i'r gwesty am 5 cyn cael tacsi i swyddfeydd moethus C2, Radio Cymru lle roedd y criw yn aros amdanai.

Pan es i lawr i'r stiwdio nath Daf Du roi her i fi i gyfweld â Owain o Ffeil. Roeddwn ni ychydig bach yn nerfus ond pan ddaeth Owain mewn, nes i rili fwynhau ei holi. Ddwedodd Daf Du a'r cynhyrchydd bo fi wedi g'neud job dda! Nes i hefyd sgwrsio gyda Magi D am y newyddion cerddororol diweddara'.

Noson allan i fi heno eto - dwi'n mynd i Clwb Ifor Bach gyda fy ffrind - sy' hefyd yn Jen Jeniro. Fyddai'n gadael chi wybod y gossip i gyd fory! Tan hynny - diolch am ddarllen - ac am wrando!
Hwyl!
Glyn xxx

Gwener 10 Tachwedd 2006
Teimlo bach yn wan bore ma, ar ôl bod allan neithiwr. Roedd rhaid i fi fynd i ffilmio efo Hacio bore ma, rhaglen sy'n cael ei ddarlledu ar S4C digidol ar y 7fed o Ragyfr. Roedd rhaid i fi orwedd ar wely efo Lisa Pedrick tra'n cael fy nghyfweld am y cyfryngau.

Yna ddes i'n syth i stiwdio am 3 i wneud cyfweliad efo Owen Money ar gyfer Radio Wales. Roeddwn wedi blino'n lân yn ystod y cyfweliad.
Ar ôl dod i fyny i swyddfa C2, fe aeth Mair a fi i stiwdio 5 i recordio sgyrsiau efo Richard, Lea, Lisa, Grace a Imogen ar gyfer rhaglen heno. Roedd yn hwyl!

Bach yn drist am ddeg o'r gloch heno gan fod fy wythnos ar C2 wedi dod i ben. Dwi wedi mwynhau yn fawr wythnos yma efo'r criw, ac wedi joio cyflwyno drwy'r wythnos, ac yn edrych ymlaen i ddod yn ôl yn fuan.

Dwi yn mynd i Casnewydd rwan, i wneud ymddangosiad mewn clwb nos. Yn Llundain fyddai dros y penwythnos, ac yna wythnos brysur arall o'm mlaen.

Diolch yn fawr i bawb am darllen fy nyddiadur, a hefyd i bawb sydd wedi bod yn gwrando a cysylltu efo C2 drwy gydol yr wythnos. Cofiwch i gario mlaen i wrando.
Diolch eto
Cariad Mawr
Glyn xxxx

Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy