 |  |  | Java 27 Ebrill 2005
Dim Rhy Siwr
Y Ras
Broga Coch
Grwp: Java Dyddiad darlledu sesiwn: Ebrill 27, 2005 Lle recordiwyd y Sesiwn: Stiwdios Fflach, Aberteifi Brawddeg am y band: Ar ôl ennill cystadleuaeth fawr Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru yn 2004 (mae'r sesiwn yma'n rhan o'u gwobr) aeth pethau o dda i well i'r band o Lambed wrth iddyn nhw hefyd ennill Brwydr Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Steddfod yng Nghasnewydd. Be nesa? Hefyd fel rhan o'r wobr am ennill Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru, mewn ychydig o wythnosau bydd y band yn rhyddhau EP ar label RASAL fydd yn cynnwys 5 neu 6 trac (gan gynnwys traciau o'r sesiwn). Ar ôl chwarae mewn pentwr o gigs yn ddiweddar, mae'r band yn canolbwyntio ar eu harholiadau Lefel-A ar hyn o bryd, cyn ail-afael yn eu gitars yn ystod gigs yr haf. Aelodau: Rhodri Daniel - gitâr Daniel Davies - canu Rhodri Lewis - drymiau Ifan Gwilym - gitâr fas + clarinet Genre: Roc Gitâr Hoffi hwn? Gwrandewch ar sesiynau Radio Luxembourg, Winabego a Poppies.
|  |
|