Mentrau Iaith Cymru a C2
Enillwyr Eleni!
No StarNos Iau, Gorffennaf 14eg, fe bleidleisiodd miloedd o bobl dros eu hoff grŵp yn rownd derfynol Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru a chyn 1 o'r gloch y bore fe ddaeth y canlyniad oedd pawb wedi aros yn effro i'w glywed.
Y band sy'n ennill wobr fawr y flwyddyn yw No Star o Wrecsam. Roedd y beirniaid Owen Powell gynt o Catatonia a Rhodri Llwyd o'r band Cerrig Melys wedi'u plesio gan recordiad No Star o'r gân 'Bywyd'. Cliciwch yma i glywed y trac yn llawn:
No Star - Bywyd
Yn ôl Owen, "Yr hyn sy'n dda am No Star yw taw nhw sydd â'r dealltwriaeth orau o sut mae caneuon pop roc yn cael eu strwythuro. Mae nhw wedi cadw'r gân yn syml, mae'n gryno, mae'n effeithiol a dwi'n hoffi iawn ohoni - dyma gân orau'r gystadleuaeth gan fand orau'r gystadleuaeth." Marciau: 18/20
Roedd Rhodri hefyd, am unwaith, yn hapus: "Mae gallu offerynnol pob un o aelodau'r grwp yn arbennig o dda. Mae ansawdd y chwarae yn syfrdanol a dwi'n credu gallai'r band ddenu cryn ddilyniant mewn cyfnod eitha byr. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi y ffaith eu bod nhw wedi troi'r gitars i fyny i 11 a hanner!" Marciau: 15/20
Roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn wrth i'r holl fandiau - Amlder, Di Pravinho, Ha Kome a No Star dderbyn marciau uchel iawn gan y beirniad a derbyn cannoedd o bleidleisiau yr un. Cliciwch yma i glywed y dair cân arall:
Amlder - Mae Rhaid i ti Fynd
Di Pravinho - Labwba
Ha Kome - Colli'r Trên
Bydd Daniel, Meurig, Rob, Sam a Will o'r band No Star nawr yn recordio sesiwn i C2, mynd ar daith gigs, rhyddhau CD, ffilmio fideo i S4C, ac yn perfformio yn Maes B yn Steddfod Eryri eleni.
Lluniau
Y Gogledd
Lluniau
Y De