Llun gan Hatti WrayEgni Roc y Fenks Shui
Wythnos yma, un o grwpiau newydd y sîn roc yng Ngheredigion aeth i'r stiwdio i recordio sesiwn ecsliwsif i raglen C2. Nos Fercher, Chwefror 25ain, am 10pm fe ddarlledwyd tair cân newydd Fenks - y tro cyntaf i'r grwp gael eu darlledu ar C2.
Cofiwch yr enw - y grwp enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Meifod llynedd. Wedi ffurfio tra yn yr ysgol yn Aberaeron yn 2002 wnaethon nhw greu argraff fawr ar y beirniaid yn y gystadleuaeth llynedd (Huw Stephens a Dyl Mei) gyda perfformiad gwych, gwallgof a llawn egni, ac os yda chi'n hoffi'ch roc - yna gewch chi ddim mo'ch siomi gan y sesiwn yma.
Mae'r grwp yn bwriadu rhyddhau CD demo yn yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio chwarae mewn mwy o gigs led-led y wlad. I glywed y sesiwn newydd cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen.
Cliciwch yma i wrando ar y sesiwn diwethaf gan Bob George.
Sesiynau i ddod ar C2
Bob yn ail nos Fercher ar C2 ar Radio Cymru mae Huw Stephens yn darlledu sesiwn newydd rhwng 10pm a 11pm, a dros y misoedd nesaf, mi fyddwn ni'n darlledu sesiynau gan Mim Twm Llai, Jakokoyak, Gogz, Quidest, Llwyd, Frisbee, Gilespi, Winabago, Eryr, Bechdan Jam, Hypokrit, Bydd y Byddariaid yn Clywed, Vates, Mehefin yr Gyntaf a llawer mwy.
Os ydach chi mewn grwp ac yn awyddus i recordio sesiwn i C2, anfonwch dâp/CD demo at:
C2
Radio Cymru
Ystafell 2001
BBC Cymru
Llandaf
Caerdydd CF5 2YQ
neu ebostiwch c2@bbc.co.uk i gael mwy o wybodaeth.