BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageHeights, Sibrydion
Caerdydd, Ionawr 2006
Bedwyr Owen


Lle a phryd
Barfly, Caerdydd. Ionawr 20, 2006

Y bandiau
The Heights, Sibrydion, Kardoman.

Enw'r adolygydd
Adolygiad gan Bedwyr Owen.

Awyrgylch
Roedd awyrgylch da i'r noson. Gyda chymysgedd o ffyddloniaid yr SRG (Sîn Roc Gymraeg) a dilynwyr mwy diweddar The Heights. Nid oedd Barfly yn orlawn ac felly roedd digon o le i ddarparu ar gyfer y mosho yn y blaen a hynny heb aflonyddu ar y gwrandawyr mwy astud yn y cefn.

Trac y Noson
Yn fy marn i heb os mai 'Dafad Ddu' gan y Sibrydion oedd y trac mwya' cofiadwy o'r noson. Gyda Meilyr yn neidio o amgylch y llwyfan a Rhys fel pe bai'n caru gyda'i gitar fas!

Disgrifiwch y perfformiadau

Kardoman - Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan Kardoman, a agorodd y noson. Nid oeddwn wedi eu clywed o'r blaen ac roedd yn fraint gwrando ar fand newydd, gwahanol. Cerddoriaeth nerthol a lleisydd hyderus.

Sibrydion - Nid oes angen cyflwyniad i'r Sibrydion. Cafwyd perfformiad anhygoel arall ganddyn nhw. Roeddynt yn ddiolchgar iawn o gael chwarae, ond y gynulleidfa a oedd fwyaf diolchgar wedi eu set rymus. Dyma fand sydd â steil hollol wreiddiol ac unigryw, ac uchelgais credadwy.

The Heights - Yn cloi y noson, a hynny mewn steil, oedd band sydd ar y ffordd i wireddu eu uchelgais, The Heights. Bydd llawer yn eu cofio fel Y Gogz o Fethel, ger Caernarfon. Nawr mae nhw wedi cyrraedd yr uchelfannau ac mae'n hawdd dallt pam. Gyda cyfuniad o roc caled a chaneuon araf roedd rhywbeth at ddant pawb yn eu set. Roedd yn braf clywed y fersiwn Gymraeg o'r glasur 'Ffordd Hir Nôl' a hynny o flaen eu cefnogwyr mwyaf blaenllaw. Mi gymerith fwy na cytundeb record i hogia'r Bethel anghofio eu gwreiddiau.

Uchafbwynt y noson
'Ffordd Hir Nôl' gan The Heights a 'casŵio' gwallgo y Sibrydion!

Y peth gwaethaf am y noson
Er fod Barfly yn un o safleodd prysura'r brifddinas o ran nosweithiau cerddorol o safon mae lleoliad y colofnau trwchus sy rhwng y bar a'r llawr yn rwystredigaeth mawr. Yn enwedig i'r rhai hynny sy'n ffafrio eu cefnau at y bar. 'Y Barflies'!!?

Beth sy'n aros yn y cof?
Y cyfeillgarwch rhwng y bandiau wrth iddynt estyn cymeradwyaeth i'w gilydd yng nghanol eu setiau. Dangosodd hyn y parch sydd gan gerddorwyr talentog tuag at ei gilydd y dyddiau hyn. Yn enwedig ar y cylchdaith Cymraeg.

Achlysur Roc a Rôl
Meilyr 'Sibrydion' yn lluchio gasŵ i'r gynulleidfa a'n gwahodd i ymuno yn yr hwyl!

Talent gorau'r noson?
Talent gorau'r noson heb os oedd 'The Heights'. Rydym yn ymwybodol o bedigri'r 'Sibrydion' ers ymhell dros ddegawd, ond mae'r 'Heights' wedi datblygu o nunlle bron, i fod fod yn un o'r bandiau ifanc mwyaf talentog i'w clywed ers blynyddoedd.

Marciau allan o ddeg
I'r gig yn gyffredinol rhaid rhoi 9/10. Buasai'n 10/10 oni bai fod oriau cau 'Barfly' yn rhy fuan. 10/10 i'r tri band am eu ymrwymiad, a'u llwyddiant i godi'r dorf a oedd ar brydiau yn ymddangos yn wangalon.

Un gair am y gig
Pwysig.

Unrhyw sylwadau eraill?
Gobeithio y gwelwn ni fwy o nosweithiau Cymraeg tebyg i hon yn y dyfodol agos. A hynny mewn mwy o leoliadau gwahanol. Mwy fel rhain ac mae dyfodol y SRG yn flodeuog. Da iawn!

Cysylltiadau'r we
Sesiwn Sibrydion i C2
Sesiwn Gogz (The Heights) i C2
Gwefan The Heights

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy