 | Winabego, KAFC, Heights Llundain, Tach 2005 Esyllt Dafydd
Lle a phryd The Water Rats Theatre, Gray's Inn Rd., Llundain. 26ain Tachwedd 2005
(Trefnwyd gan ALLtud - fi drefnodd y gig, a dwi wedi ceisio bod mor ddiduedd a phosib isod...) Enw'r Adolygydd
Esyllt Dafydd
Y bandiau The Heights, Kentucky AFC, Winabego
Awyrgylch Lleoliad yn argoeli'n dda. Tafarn gyda naws theatr iddi. Mae'n debyg mai dyna lle oedd gig 1af Oasis yn Llundain, ac mae nifer o fawrion y SRG (Sîn Roc Gymraeg) wedi perfformio yno hefyd. Roedd y lle bron yn hanner llawn yn ystod set Winabego - argoeli'n dda am weddill y noson, gyda chymysgedd dda o Lundeinwyr, a Chymry yn y gynulleidfa. Llundeinwyr: yna i weld grwpiau newydd (iddyn nhw)
Cymry Llundain: yna er mwyn tawelu eu hiraeth am Gymru
Cymry o Gymru: yna er mwyn cefnogi'r 'ogia Roedd yr ymateb yn wych, yn enwedig pan ddechreuodd KAFC ddosbarthu CDiau am ddim.
Disgrifiwch y perfformiadau
Winabego: Yn fand sydd dal yn gymharol newydd i'r SRG (o gymharu â'r 2 fand arall), dyma nhw'n plesio'n fawr. Cymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg, a 'Dal fi Fyny' a 'Colli ar fy Mhen' yn wych. Cafwyd sylw gan un Llundeiniwr eu bod yn ymdebygu i Franz Ferdinand...heb y siwtiau. Roedd yn amlwg eu bod wedi rhoi popeth i'r perfformiad - ac fe weithiodd. KAFC: Waw! Y ffordd orau i fesur y perfformiad yma oedd gyda'r chwys a chwyswyd - LOT! Roedd yn amlwg eu bod wedi bod yn perfformio ers amser, ac yn gyfarwydd â chwarae i gynulleidfaoedd yn Llundain hefyd. Unwaith eto, cymysgedd o ganeuon Cymraeg a Saesneg yn llawn egni, a 'Outlaw' yn ddewis da ar gyfer gorffen y set. The Heights: Dyma'r band a chwysodd fwy na KAFC (tipyn o gamp, trystiwch fi)! Eu profiad o berfformio yn Llundain yn amlwg, a'r set yn broffesiynol iawn- o'r caneuon i'r dillad. 'Handlebars' a 'High as You' yn amlwg wedi plesio'r dorf. Ar ddiwedd y perfformiad, gallen i daeru bod y dorf ar fin gofyn am 'encore'. Caneuon Cymraeg a Saesneg eto.
Trac y noson Y gân oedd yn crynhoi egni'r 3 band oedd 'High as You', The Heights - rhoddwyd popeth mewn i'r perfformiad yma.
Uchafbwynt y noson Y gig! A......gweld cymaint o drigolion Llundain yn troi fyny ac yn mwynhau'n enfawr!
Y peth gwaethaf am y noson Rhyw ffwl ym mlaen y dorf yn heclo. Wrth i'r Heights gyflwyno un o'u caneuon, dyma fe'n gweiddi "I hope it's in Engish!". Yn lwcus, doedd e ddim yn cynrychioli barn gweddill y dorf.
Achlysur Roc a Rôl Y ffaith fod cymaint o bobl di-Gymraeg yn medru mwynhau caneuon Cymraeg. Hyn yn dangos bod y bandiau hyn yn gallu cyfathrebu gyda'u cerddoriaeth yn ogystal â'u geiriau. A... ...clywed fod y gig wedi cael mensh yn NME!! A... ...9 allan o 11 o'r perfformwyr yn dewis nŵdls yn lle sglodion (chips!) i swper rhwng y soundcheck a'r gig.
Beth sy'n aros yn y cof? 11 perfformiwr o fry, nŵdls, chwys...beth arall y'ch chi angen ar nos Sadwrn?!
Talent gorau'r noson Dwi am ddweud pob un ohonyn nhw, ond os oes rhaid dewis... Winabego - am y rheswm syml eu bod wedi plesio pawb yn y gynulleidfa er mai nhw yw'r lleiaf profiadol o'r 3 band.
Marciau allan o ddeg 9/10 (ond wedyn dwi yn eithaf biased!!)
Un gair am y gig Ffrwythlon!! Lincs gwefan
www.theheightsmusic.comSesiwn The Heights i C2www.winabego.moonfruit.com/winabegoSesiwn Winabego i C2Sesiwn Kentucky AFC i C2www.plummusic.comNid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |