 | Mattoidz, Java... Caerfyrddin, Hyd 2005 gan Lois Dafydd
Lle a phryd Undeb Myfyrwyr Caerfyrddin, Nos Wener 21ain Hydref 2005. Noson Cwrwgl a rhan o Daith C2 Bandit
Y bandiau Mattoidz, Java, Killionaire (enw newydd Bechdan Jam - llun uchod), Tangwystl
Awyrgylch Trueni nago'dd mwy o bobl wedi dod, ond o'dd 'selogion' y bandiau'n bresennol felly'n gyfarwydd â'r caneuon a'n amlwg wrth eu bodd! Ystafell ddelfrydol i gynnal gig, ond yn rhy fawr o ystyried maint y gynulleidfa - siomedig nad o'dd mwy o'r myfyrwyr lleol wedi dod i gefnogi. Ymateb y gynulledifa'n wych - credu bod yr holl neidio dawnsio a gweddi canu'n dweud y cyfan!
Trac y noson 'Tan y Tro Nesa', Mattoidz yn bendant! Cân sy'n llwyddo i ennyn ymateb yn ddiffael - lot o neidio a phawb yn canu!
Disgrifiwch y perfformiadau Tangwystl: Band lleol y noson yn rhoi perfformiad arall o safon, ac yn cyfathrebu'n dda â'r gynulleidfa. Y sacs a'r ffidil electronig yn dod â gwreiddioldeb a'n ychwanegu at berfformiad cwl, llawn a hydreus iawn. Eu cân olaf, 'Mabli' yn uchafbwynt gwych i'w set. Haeddu cynulleidfa fwy.Bechdan Jam: Cyfraniad gogleddol y noson, ac yn ymdoddi'n dda gyda'r bandiau eraill. Heb eu gweld yn chwarae o'r blaen, a trueni na ddaethon nhw â'u dilynwyr. Cymysgedd dda o ganeuon bywiog a chaneuon bywiog iawn - ddim yn gyfarwydd ag enwau'r caneuon i allu cyfeirio at rai penodol, sori. Perfformiad cadarn ac addawol iawn. Java: Y system sain heb wneud cyfiawnder â'r set yma, gyda'r meics ddim yn gweithio neu'n rhy uchel, ac ambell i swn aflafar, ond hyn yn amlwg heb effeithio ar fwynhad y band. Dwy gân gyda'r aelodau cyn i Cynan ddod ar y llwyfan i berfformio caneuon cyfarwydd a chaneuon newydd. Hoff o'r rhyddid oedd gan Cynan gyda'r geiriau, yn rapio dechrau 'Cassandra', un o glasuron Mattoidz, a ffitio 'y Gorlan' i mewn fan hyn a fan draw. 'Ddim Rhy Siwr' yn uchafbwynt i set band sy'n amlwg wrth eu bodd o flaen cynulleidfa, hyn i'w weld yn y dawnsio a'r neidio gwyllt. Mattoidz: Perfformwyr gorau'r noson, a pherfformwyr gorau'r sîn ar hyn o bryd yn bendant - yn rhoi popeth i bob perfformiad, dim ots pa mor aml ma nhw'n chwarae, dim ots am y lle, a dim ots am faint y gynulleidfa. Do'dd y gig yma ddim yn eithriad, o bell ffordd! Erbyn hyn ro'dd torf wedi ymgynnull ar y llawr dawnsio, a phawb yn mynd yn wyllt o nodyn cyntaf y gân gyntaf, sef 'Sos Coch' - ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan! Cyfle i glywed ambell i gân newydd - 'Edrych yn Well o Bell' bendant yn ffefryn yn barod - a'r hen glasuron sy'n llwyddo i blesio bob tro! Band sy'n mynd o nerth i nerth, ac yn llawn haeddu 'ny!
Uchafbwynt y noson Mattoidz, am unwaith, yn ymateb i alwad y 'selogion' am 'fwwwwy' - yn chwarae medli, o ddwy gân, sef 'Sos Coch' a ffefrun bois 118, 'Dyn Telesales'.
Y peth gwaethaf am y noson Bod cyn lleied o bobl 'na - eu colled nhw!
Achlysur Roc a Rôl Mattoidz Roc (blasus iawn, a ddim mor soggy a'r batch dwetha), a rôl Ifan Java - wel, doner kebab! Hefyd, Cynan Llwyd yn rhedeg ar y llwyfan i ganu 'Drws nesa, drws nesa, drws nesa, trani drws nesa' gyda Mattoidz.
Beth sy'n aros yn y cof? Mosho gwirion Java a Tangwystl i set Mattoidz.
Talent gorau'r noson Y talent newydd gorau o'dd Tangwystl, ond y Mattoidz dalentog yn goron ar y cyfan.
Marciau allan o ddeg 9 - pob band wedi rhoi 100%, colli marc achos y system sain.
Un gair am y gig Ansbaradigaethus Unrhyw gyngor neu sylwadau eraill?
Os gewch chi gyfle i weld unrhyw un o'r rhain yn perfformio - ewch!
Cysylltiadau'r we Lluniau o'r gig Taith C2 Bandit www.CWRWgl.com Sesiwn C2 gan Mattoidz Sesiwn C2 gan Bechdan Jam
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |