Blas ar Bechdan Jam Unwaith eto wythnos yma mae'n bleser cyflwyno grwp cyffrous i donfeddi Cymru - Bechdan Jam - y band ifanc, egniol o ardal Porthmadog. Ma'r enw yn un digon cyfarwydd - fe enillodd y triawd gystadleuaeth bandie Steddfod Genedlaethol llynedd a roedden nhw'n fuddugol yng nghystadleuaeth Brwydr Bandiau y rhaglen deledu Uned 5 hefyd.
Ma' Osian, Chris ac Iwan hefyd wedi bod yn gigio'n gyson dros y misoedd dwetha'. Yn ôl Osian, ma dylanwad grwpie eitha rocky/punky fel Foo Fighters, Queen's of The Stone Age a Nirvana ar eu cerddoriaeth, felly agorwch eich cegau a cymerwch flas o Bechdan Jam - cliciwch ar y caneuon ar dop y tudalen i glywed y sesiwn yn llawn.
Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.
Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?