 | No Star vs Y Derwyddon Cwpan y Coroni 2005 Dafydd Owen
Lle a phryd Nos Sadwrn Tachwedd 22ain - Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Y bandiau Java, No Star a Derwyddon Dr Gonzo
Awyrgylch Nes i gyrraedd yn gynnar i weld y bandiau, ac er fod y gig yn cychwyn yn eitha cynnar, roedd yna griw da yna yn barod am 8:30pm. Roedd y gynulleidfa ifanc yn barod i ddawnsio ac roedd yr awyrglych i No Star a Derwyddon Dr Gonzo yn dda iawn o feddwl fod hi'n eitha cynnar a bod pawb weddol sobor ac mai bandiau newydd oedd yn chwarae. Erbyn diwedd y noson roedd y dawnsio wedi treuddio trwodd i bawb oedd yno ac roedd amhosib peidio dawnsio i Derwyddon Dr Gonzo.
Trac y noson Mae'n anodd meddwl am drac wnaeth sefyll allan oherwydd fod y bandiau yn fandiau newydd. Dwi'n siwr mai dyma'r tro cynta i lawer yno eu gweld ac felly doedd mwyafrif llethol o'r dorf ddim yn gyfarwydd â chaneuon y bandiau. Ond yn bersonnol, rhaid i mi ddewis 'Pisd Off Boi y Byd' gan Java fel trac y noson gan fod egni y band a gwên fawr Cynan Llwyd, rapwir Java, yn treuddio trwodd wrth i'r dorf ei ddarganfod hi'n amhosib i beidio mwynhau'r trac gwych yma.
Disgrifiwch y perfformiadau No Star: Dyma'r ail dro i mi weld nhw, ac roedd system sain Clwb Ifor Bach wedi gweddu yn berffaith gyda eu naws trwm i greu rhyw wall of sound gyda'r tri gitar reit fyny i 11. Roedd y caneuon yn rhai tynn iawn iawn, ac roeddynt yn amlwg yn gwbod ei stwff fel band. Band sy'n sicr o lwyddo. Yn fy marn bersonnol, mewn blwyddyn gall No Star fod yn fand roc trwm Cymraeg gwych. Dwi yn gobeithio y gnewn nhw gario ymlaen i ganu yn y Gymraeg.Derwyddon Dr Gonzo:Y tro cyntaf i mi weld nhw ac mae rhaid i mi gyfadda, ni chefais fy siomi gan y miloedd sydd yn y band (wel, 6!), gyda'i caneuon ffynci a'i easy-listening. Maen nhw'n amlwg yn fand gyda dawn gerddorol amlwg iawn, ac yn wahanol i No Star, roedd pobl yn tapio eu traed neu'n dawnsio iddyn nhw yn syth oherwydd eu cerddoriaeth offerynnol iawn. Tydi hi ddim yn anodd gweld pam mai nhw oedd ennillwyr Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith eleni, gan fod nhw yn hynod broffesiynnol ac yn gerddorol dda. Un peth am Derwyddon yw fod ei steil o jamio yn gallu bod ychydig yn fler ar adegau, ond wnaeth hynny ddim tynnu dim oddi ar berfformiad sgleiniog ac hynod wych.Java: Gyda'r band wedi gwahanu â'u canwr, yr hyn sy ar goll o Java yw frontman. Mae'r ffaith fod rhaid i'r gitarydd a'r basydd weithio'n galed i ganu a chwarae eu hofferynnau ar yr un pryd yn tynnu rhywfaint oddiwrth safon y cany, sy'n siom i feddwl fod cymaint o ganeuon da ganddynt. Ond roedd egni Java yn wych ac mae ganddyn nhw ganeuon aeddfed iawn sy'n dangos meddylfryd cerddorol da iawn. Mae Rhodri, y gitarydd, werth ei wylio ac mae ei ddawn gerddorol yn amlwg iawn. Mae caneuon cofiadwy iawn gan Java ac mae'n amlwg eu bod wedi treulio amser yn meddwl am y caneuon. Mae rapio Cynan Llwyd yn gweithio yn dda iawn mewn ambell gân. Yr unig beth drwg am Java ydi'r ffaith fod nhw nawr angen prif leisydd oherwydd mae'r set up presennol yn tynnu oddi wrth alawon gwych y band.
Uchafbwynt y noson Fod yna ddau fand newydd gwych yn y Sin Roc Gymraeg.
Y peth gwaethaf am y noson Yr amseru. Wrth i'r bandiau orffen oddeutu hanner nos, roedd y lle llawer mwy llawn, ac mi fuaswn yn annog y trefnwyr i sylwi mai ond canran o bobl sydd yn mynd i Clwb Ifor Bach i weld y bandiau i gyd, neu i fynd i weld y bandiau o gwbl.
Achlysur Roc a Rôl Holl groupies Derwyddon Dr Gonzo. A hefyd drymiwr Ashokan yn cael ei daflyd allan o'r clwb. Mae'r drymars wastad yn gwbod sut i neud sioe!!
Beth sy'n aros yn y cof? Y dorf ymatebol. Anaml iawn mae torf yn cymryd sylw o'r bandiau ac yn mwynhau bandiau heb iddynt fod yn fand pop.
Talent gorau'r noson Rhodri Daniel, gitarydd Java ac Ifan, basydd Java. Dau gerddor hynod dalentog sydd yn sefyll allan. O ran bandiau, Derwyddon Dr Gonzo.
Marciau allan o ddeg 8
Un gair am y gig Egniol Unrhyw gyngor neu sylwadau eraill? Os am wneud gigs yn Clwb Ifor Bach, does dim pwynt rhoi unrhyw fand ymlaen cyn 10pm Cysylltiadau'r we: www.clwb.net www.derwyddon.piczo.com www.no-star.co.uk Sesiwn C2 gan Java Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|  |