
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Dwi'n hoff iawn o'r diwydiant 'aviation' felly f'hoff peth yn y byd yw awyrennau, neu cerddoriaeth pop neu ffasiwn.
Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Allai byth ddewis un o fy ffrindiau dros bawb ond fy hoff berson o rhan pobl enwog yw Lady GaGa.
Beth sy'n gwneud ti'n hapus? Bod o gwmpas fy ffrindiau, partio, chwarae ar fy nghyfrifiadur.
Beth sy'n gwneud ti'n flin? Adolygu!
Beth yw dy hoff liw? Glas, Du neu Gwyrdd.
Beth sy'n dy gyffroi di? Ymweld a llefydd newydd, mynd ar fy ngwyliau a bod ar y teledu.
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hyn? Hoffwn naill ai bod yn gyflwynydd teledu neu Air Steward ar awyren.
Ble mae dy hoff le? Ar y traeth yn Ayia Napa, Cyprus.
Beth sydd yn dy fag? Llyfrau ysgol.
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Fy nghymelliant. Pan yr ydwyf am wneud rhywbeth, fe fyddai'n gwneud e.
Rhestra fan hyn dy ddiddordebau... Gwrando ar gerddoriaeth, cwrdd â phobl newydd, cymdeithasu, siopa am ddillad newydd, darllen ambyti'r diwydiant 'aviation', action, dawnsio, cadw lan efo'r trends diweddaraf.
Beth wyt ti'n gwneud ar ôl ysgol bob nos? Fe fyddai'n gyntaf yn ymweld a fy mam-gu - mae hi'n paratoi bwyd i mi. Yna, dwi'n mynd lan i dŷ fy hun a naill ai'n gwneud gwaith cartref neu'n adolygu.

Ifan
Jarrard
Anna
Daniel
Hanna
Delun
Rhun
Non
Sam
Rhiannon
Llyr
Hannah
Steffan
Gwennan
Gruffydd
