
Pwy ydy'r gwe-gang? Criw o bobl ifanc o Gymru gyfan sydd wedi bod yn helpu Mosgito i ddatblygu a siapio delwedd a chynnwys y sioe.
Ydw i'n gallu ymuno â'r criw? Wel, wrth gwrs! Ma' Mosgito'n chwilio am bobl ifanc i gyfrannu at y sioe. Felly paid â bod yn swil - os wyt ti'n barod i gynnig syniadau a rhoi dy farn, cysyllta nawr! Bydd cyfle i rai o'r gwe-gang ymddangos yn fyw ar raglen Mosgito hefyd.
Cofia edrych allan am yr eicon gwegam i weld pwy fydd yn ymddangos ar y rhaglen o wythnos i wythnos.
Beth sydd raid i fi neud? Mae'n syml. Cyfan sydd angen ti neud ydy anfon proffil byr ohonot at Mosgito. Gall fod ar ffurf testun neu fideo - fyny i ti. Cofia, does dim angen offer ffansi na thraethawd hir. Defnyddia'r botwm llwytho melyn ar y dde i anfon dy gynnwys.
Beth wedyn? Os gei di dy ddewis i fod yn un o'r gwe-gang, bydd cyfle i ti fynegi dy farn, dweud storïau, dangos dy luniau yn fyw ar y rhaglen a llawer mwy drwy ddefnyddio gwe-gam o dy gartref.
Dim gwe-gam? Paid poeni - bydd Mosgito yn darparu'r offer yma. Yr unig beth fydd angen arnat yw cyfrifiadur neu 'laptop' sy'n ieuengach na dwy flwydd oed; Windows XP a chysylltiad Broadband.
Am be' wyt ti'n aros? Bant â ti...!

Ifan
Jarrard
Anna
Daniel
Hanna
Delun
Rhun
Non
Sam
Rhiannon
Llyr
Hannah
Steffan
Gwennan
Gruffydd

