BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Delwedd

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Bresys

Traciau trên ar dy ddannedd

Enillodd Hywel Griffiths y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2007. Pan safodd yn y pafiliwn, roedd ganddo wên ar ei wyneb. Rhes o ddannedd syth hefyd. Cafodd Hywel fresys pan oedd e yn ei arddegau. Ond sut brofiad oedd gorfod gwisgo'r fframiau metel am flynyddoedd? Aeth Mosgito i'w holi.

Mosgito: Pryd cefaist ti'r bresys dannedd? Fe ges i fresys wedi eu gosod pan o'n i'n 14 oed. Roedd fy nannedd blaen yn gwbwl gam, pob un yn wynebu ffordd wahanol, ac felly roedd angen gwneud dau beth - tynnu pum dant mawr iawn o gefn fy ngheg, a gosod bresys i sythu'r rhai oedd ar ôl. Roedd tynnu'r dannedd yn hwyl, gan fy mod dan anaesthetig, ac roeddwn i'n gallu clywed y gwreiddiau'n rhwygo o'r geg heb unrhyw boen.

Mosgito: Beth oedd dy farn di amdanyn nhw i ddechrau? Roeddwn i'n eu hoffi nhw i fod yn onest - er eu bod yn achosi cryn boen ar adegau, yn enwedig pan o'n i'n mynd nôl at yr orthodeintydd i'w tynhau, fe ges i fandiau lastig coch a gwyn ar bob yn ail ddant. Lliwiau Cymru (a Lerpwl)! Roedd bwyta ac edrych ar ôl y bresys yn dipyn o boendod weithiau.

Gair i gall gan Mosgito:

  • Mae cannoedd o bobl yn cael bresys wedi eu gosod bob dydd. Bydd yn falch ohonyn nhw!
  • Fyddan nhw ddim ar dy ddannedd di am byth ond fe fyddan nhw'n eu gwella nhw am byth.
Mosgito: Wyt ti'n falch dy fod ti wedi eu cael nhw? Ydw, yn falch iawn. Dw i ddim yn meddwl ei bod hi'n bwysig sut mae eich dannedd yn edrych - mae gan lawer o bobl broblemau llawer mwy difrifol i boeni yn eu cylch, ond gan fod fy neintydd wedi argymell hynny, mi wnes i gytuno i'w gwisgo. Yn y pen draw dw i'n credu bod e wedi bod yn werth ei wneud.

Mosgito: Beth yw dy gyngor di i bobl ifanc sy'n mynd i gael triniaeth ar eu dannedd? I beidio â bod ofn gwneud os ydyn nhw angen eu trin ac os yw eich deintydd yn argymell hynny, ond hefyd i beidio â theimlo bod rhaid eu gwneud nhw oherwydd ffasiwn neu ddisgwyliadau pobl eraill. Yr unig beth wn i yw y bu'r holl brofiad werth y drafferth i fi.

Cysylltiadau defnyddiol

Cadair yr Urdd i Hywel

Galw Iechyd Cymru - Amrywiaeth eang o wybodaeth iechyd yn cynnwys manylion am ddeintyddion

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy