BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Pethau personol

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

mynd at y meddyg

Mynd at y Meddyg

Pryd ddylen i fynd i weld y meddyg? Os wyt ti'n teimlo'n sâl a ddim yn siŵr beth sy'n bod; os wyt ti wedi cael unrhyw symptomau am bythefnos neu fwy; neu os wyt ti'n becso am dy iechyd. Galli di fynd i weld y meddyg os wyt ti'n teimlo'n isel hefyd.

Oes rhaid i fi ddweud wrth mam a dad?

Na - bydd popeth rwyt ti'n ei ddweud wrth y meddyg yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Ond bydd y meddyg yn dweud wrth rywun arall os yw e' neu hi'n meddwl bo' ti mewn perygl.

Sut mae gwneud apwyntiad

  • Ffonia'r feddygfa neu cer mewn i wneud apwyntiad. Rho dy enw, a dwed bo' ti am wneud apwyntiad i weld meddyg.
  • Galli di ddod o hyd i'r feddygfa agosa trwy edrych ar wefan Galw Iechyd Cymru
  • Os wyt ti am weld meddyg sy'n fenyw neu gael apwyntiad ar ôl ysgol, dwed hynny.
  • Paid synnu os na fyddi di'n gallu cael apwyntiad am sawl wythnos.
  • Os wyt ti'n teimlo'n sâl iawn, gofynna pryd mae'r feddygfa ar agor i achosion brys. Hynny yw, yr amserau y galli di fynd i'r feddygfa ac aros nes bod y meddyg yn rhydd.
  • Os wyt ti'n teimlo'n rhy sâl i fynd i'r feddygfa, gofynna i'r meddyg ddod i dy weld di gartre.

Beth os ydw i'n rhy swil i ddweud beth sy'n bod? Does dim angen i ti deimlo'n swil. Mae meddygon wedi gweld a chlywed popeth, a dyn nhw byth yn teimlo'n anghyfforddus. Os wyt ti'n swil iawn, dwed hynny wrth y meddyg a bydd e'n gwneud ei orau glas i helpu ti i ymlacio.

Falle byddai'n werth i ti ysgrifennu rhestr o gwestiynau i'w gofyn i'r meddyg fel bo' ti ddim yn anghofio unrhyw beth ac yn cael ateb i'r holl bethau sy'n dy boeni di.

Cysylltiadau defnyddiol

The Surgery - y ffeithiau i gyd yn blwmp ac yn blaen am bob dim sy'n bwysig i ti.

Slink - ffasiwn a ffeithiau ar gyfer merched (a bechgyn!) yn eu harddegau

Galw Iechyd Cymru - amrywiaeth eang o wybodaeth iechyd

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy