
Holiadur Betsan Powys
03 Medi 2009
Y newyddiadurwraig Betsan Powys a ddewiswyd i ddilyn yn ôl troed John Humphrys a Magnus Magnusson fel cyflwynydd Mastermind Cymru pan lansiwyd y gyfres am y tro cyntaf yn y Gymraeg yn 2006.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf i chi weld mewn sinema?
Coco Before Chanel.
Beth oedd y neges destun ddiweddaf i chi dderbyn?
Neges ynglyn ag amseru ein darllediad ni o gynhadledd Plaid yn Llandudno. Wel chi ofynnodd ...
Petai chi'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i chi wneud? G'neud Grand Tour o swyddfeydd arweinyddion y pleidiau - eistedd yn dawel, gwrando'n astud iawn.
Beth sy'n gwneud i chi ymlacio? Cerdded ... yn bell ac ymhell o bobman.
Pa atgof sy'n gwneud i chi gochi fwyaf? Dal ati i ffilmio yn Somalia pan ddylwn i fod wedi stopio. Ifanc a dibrofiad - dal i deimlo cryd yn dod drosta i wrth feddwl nôl.
Pa raglen deledu ydych chi'n ei mwynhau fwyaf ar hyn o bryd? Hen ffefryn - Have I Got News for You.
Pa lyfr sydd wedi cael yr argraff fwyaf arnoch chi? A Prayer for Owen Meany - John Irving.
Petai chi'n cael newid un peth am eich hun - beth fyddai hynny? Rhoi troedfedd neu ddwy ychwanegol ar fy ffiws.
Oes gennych chi lysenw? 'Bi-Pi' pan on i'n blentyn; dim byd bellach hyd y gwn i.
Pe na fyddech chi'n yn eich swydd bresennol, beth fyddai eich swydd ddelfrydol? Mam aros adre - yr ateb rhwydda hyd yma.
Pwy sydd yn eich ysbrydoli chi? Pobol sy' o nghwmpas i bob dydd na fyddai'u henwau nhw'n golygu dim i chi.
Pa eitem yn eich cwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnoch chi? Mae digonedd wedi bod ond mae pob un wedi cael ffling. Pam dal gafael ar y dystiolaeth?
Beth yw eich lleoliad picnic delfrydol? Y cae uwchben Eglwys Partishow ger y Fenni.
Petai chi'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i chi wneud? Penderfynu pwy sy'n cael gw'bod.
Pwy fydde chi'n hoffi gweld yn eich actio mewn ffilm am eich bywyd? Audrey Tatou ar ôl cwrs Wlpan.
Pa faith ddiddorol hoffech chi rannu gyda ni? Dwi'n cysgu gyda phortreadau o Aneurin Bevan a Margaret Thatcher dan y gwely.



