BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru - Llyfr y FlwyddynBBC Cymru - Llyfr y Flwyddyn

BBC Homepage
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ymateb Vaughan Hughes

Y cwpan llenyddol yn hanner llawn ynteu'n hanner gwag?

Hanner a hanner
Cyfyng gyngor - hwnna ydi o.
Amlinellaf yn fyr y sefyllfa y caf fy hun ynddi.
Cytunais yn dalog i fwrw fy llinyn mesur dros y cyfrolau sy'n ymgiprys eleni am y teitl Llyfr y Flwyddyn a gwobr ddeniadol o £10,000 di-dreth.

Daeth y cais, wrth reswm, cyn i'r rhestr ymddangos ac fe dderbyniais innau'r gwaith cyn i'r rhestr ymddangos.

Dychmygwch fy mraw pan gefais i fy nghip cyntaf ar y rhestr. Canfûm nad oeddwn i wedi darllen eu hanner nhw - yn llythrennol.

Wrth gwrs, mae hynny'n golygu hefyd fy mod i, ar yr un pryd, wedidarllen eu hanner nhw. Hynny ydi , darllenais bump o'r cyfrolau.
Dim ond pump allan o ddeg.
Ydi fy ngwydryn llenyddol i, felly, yn hanner gwag neu'n hanner llawn?

Y ffaith ydi fy mod i wedi ymrwymo i drafod deg llyfr tra bod cynnwys pump ohonyn nhw'n gwbl ddieithr imi.
Ac mae'r sitiwesion sefyllfa yn waeth na hynny a dweud y gwir wrthach chi.
Rhoddais y gorau i un o'r llyfrau sydd ar y rhestr am nad oedd o at fy nant i o gwbl. Felly, mewn gwirionedd, dim ond rhyw bedair a hanner o'r cyfrolau hyn a ddarllenais i.

Beth ddylwn i ei wneud?
Cymryd arnaf yn ddichellgar fy mod i wedi eu darllen nhw i gyd?
Neu ofyn am gael fy rhyddhau o'r dasg o'u trafod?

Ond pa mor hawdd, ar wahân i feirniaid Llyfr y Flwyddyn, fyddai dod o hyd i neb arall a oedd wedi darllen pob un o'r deg cyfrol?
A minnau wedi dewis bod yn onest efo chi, fe geisiaf wneud y gorau, annigonol, ohoni.

Dau fardd
Cychwynnaf efo'r llyfrau nad ydw i wedi eu darllen.
  • Gen i feddwl mawr o Ceri Wyn Jones fel bardd ond dydw i ddim eto wedi troi at ei gyfrol ddiweddaraf nac ychwaith at gyfrol gan fardd arall sy'n sicr yn ei medru hi, Iwan Llwyd.

    Dwn i ddim pam, ond dwi'n darllen llai bellach o farddoniaeth newydd nag yr oeddwn i'n arfer ei ddarllen ond caf yr un blas ag erioed ar yr hen ffefrynnau.
    Arwydd o heneiddio, synnwn i ddim.

    Rhyddiaith
    Rhyddiaith nesaf:
  • Dwi'n meddwl mod i wedi gweld tamaid o nofel Caryl Lewis, Y Gemydd, yn Golwg, a bod hynny wedi methu ennyn fy niddordeb.

    Ond o barch at yr hyn mae Caryl wedi ei gyflawni eisoes, mae gen i bob bwriad o ddarllen hon rywbryd.

  • Fe ddaw'r dydd hefyd, mae'n bur debyg, pan fydd galw arnaf i droi at gyfrol Alan Llwyd er na ddigwyddodd hynny ddim eto.

  • Yn achos Llwyd Owen, enillydd y llynedd, nid ydwyf erioed wedi darllen yr un o'i nofelau. Dwn i ddim pam: ond teimlaf rywsut, yn reddfol, na fydd ei waith at fy nant.
    Rhagfarn?
    Dim o'r fath beth.
    Heb ei ddarllen, does gen i ddim hawl i fod â barn na rhagfarn amdano fo.

    Wedi darllen
  • Rŵan 'ta, beth am y rhai rydw i wedi eu darllen?
    Neu hanner ei darllen yn achos Pryfeta, Tony Bianchi, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd.

    Swynwyd fi gan ei golygfa agoriadol drawiadol.
    Ymylai at fod yn olyniaeth Ian MacEwan.
    Ond pylu wnaeth yr argraff gadarnhaol honno.
    Mae'n ddrwg gen i,ond tydw i ddim yn medru magu brwdfrydedd tuag at bryfetach.

    Cofiwch fyddwn i 'n synnu dim pe byddai'r nofel hon yn cael ei dyfarnu'n Llyfr y Flwyddyn.

    Gwleidyddol
  • A bywgraffiad Rhys Evans o Gwynfor Evans eisoes wedi ennill y wobr hon yn lled ddiweddar, ydi hynny'n mynd i filwrio yn erbyn cyfrol bwysig Richard Wyn Jones am Blaid Cymru?

  • Yn y Gymru glymbleidiol sydd ohoni, mae'na ddadl dros roi'r wobr i Gwyn Jenkins am ei astudiaeth ardderchog o'r Cymro hynod hwnnw, Huw T. Edwards. Bu Huw T. yn aelod o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru!

    Diwygiad
    Dwy nofel sydd ar ôl.
  • Fel awdur cyfres ddogfen am Ddiwygiad 04- 05 roedd gen i ddiddordeb mawr yn nofel Gareth Miles am y ffenomen honno.

    Mae o'n dod yn bur agos at y gwir, fe farnaf ac mae o'n gwneud hynny heb fychanu na dirmygu Evan Roberts.

    Dipyn o gamp i Gomiwnydd fel Miles, yn enwedig o gofio sylw Marx am grefydd fel opiwm y bobol.

    Ni allaf ddeall, fodd bynnag , pam y gwnaeth yr awdur newid enwau Evan Roberts a phob un o brif gymeriadau'r Diwygiad. Mae o, hyd yn oed, yn newid enw Casllwchwr!

    I mi byddai'r nofel afaelgar a hynod ddarllenadwy hon yn rymusach ar ffurf nofel hanes go iawn.

    Yr ail dro
  • Cyrhaeddodd nofel gyntaf Elin Llwyd Morgan restr hir Llyfr y Flwyddyn. Eleni ailadroddodd y gamp honno efo'i hail nofel a'r tro hwn, yn fy marn i, mae hi'n gystadleuydd cryfach o lawer iawn.
    Wnes i wirioneddol fwynhau hon.

  • Un sylw i gloi.
    Sylwaf nad ydi beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2008 wedi cael eu dylanwadu gan y galw a fu arnyn nhw i ddewis nofel Angharad Tomos, yr un a wrthodwyd ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen ym Mhrifwyl yr Wyddgrug.

  • Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008
  • Barn y Beirniaid


  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy