Disgrifiwyd cystadleuaeth
Llyfr y Flwyddyn fel un sy'n mynd o nerth i nerth gan fardd ac ysgolhaig sydd wedi ei beirniadu ddwywaith erbyn hyn.
"Yr ydym yn teimlo fod y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn gyda'r safon yn gyson uchel ac yn rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddi fel darllenwyr Cymraeg," meddai Huw Meirion Edwards mewn cyfarfod yn llyfrgell Wrecsam 12 Mawrth 2008 i gyhoeddi enwau'r deg llyfr ar restr hir 2008.

Yr oedd y ddau feirniad arall, Sian Thomas ac Aled Islwyn, a fu'n didol a dethol 60 o lyfrau i gyd, mewn seremoni arall debyg yng Nghaerdydd.
Newid amserlen Gyda chymaint o lyfrau i'w hystyried awgrymodd Huw Meirion Edwards yn ei gyflwyniad ef y dylid ailedrych ar amserlen y gystadleuaeth erbyn hyn.
"Fe ddaeth dogn cyson o lyfrau atom ni drwy'r flwyddyn ond oherwydd y bwrlwm anorfod yn y gweisg bob Nadolig daeth nifer helaeth o lyfrau i law yn ystod Rhagfyr a Ionawr - yn eu plith nifer o gyfrolau swmpus oedd yn golygu wythnosau dwys o ddarllen ar ddiwedd y cyfnod," meddai.
"Byddai wedi bod yn braf cael ychydig mwy o amser - amser ychwanegol, felly - i benderfynu ar y rhestr hir ar ddiwedd cyfnod.
"Rydym yn deall fei bod yn bwysig fod i'r gystadleuaeth gerrig milltir dyddiadau arbennig er mwyn cael yr
impact mwyaf ond efallai bod yna le i feddwl eto am yr amserlen er mwyn cael dosbarthu'r llyfrau yn fwy cyson drwy'r flwyddyn," meddai.
Dau gant yn SaesnegOnd os oedd gwaith y beirniaid Cymraeg yn drwm yr oedd gorchwyl y rhai Saesneg deirgwaith gwaeth gyda 200 o lyfrau i'w darllen ac wedyn, yng ngeiriau Mavis Nicholson un o'r beirniaid, "gorfod hepgor 190 o'r rheini er mwyn anrhydeddu deg".

Gan ddisgrifio bocsieidiau o lyfrau yn cyrraedd ei chartref "a minnau'n gweddïo wrth Dduw mai bocs o winoedd oeddwn i wedi anghofio imi ei archebu oedd un ohonyn nhw" awgrymodd hi drefn bod rhywun arall yn didol y llyfrau i nifer resymol cyn bo'r tri beirniad yn bwrw eu coelbren hwy.
Disgrifiodd yn gyntaf fisoedd o gyfnewid barn drwy e-bost rhyngddi hi, Trevor Fishlock a Damien Walford Davies cyn cyfarfod wyneb yn wyneb i ddidoli'n derfynol.
"Fe gefais i'r darllen yn lluddedig yn emosiynol hefyd," meddai.
"Cymaint i'w darllen a chymaint o newid mewn cywair - gorffen un trist a chychwyn un arall hapus - yr oedd fy synhwyrau yn chwil," meddai.
Dewis eangYr oedd Huw Meirion Edwards wedi cyfeirio at yr amrywiaeth oedd ar gael yn y Gymraeg hefyd.
"Wrth bori drwy'r silffoedd o lyfrau newydd fe wnaethon ni sylweddoli bod yna nifer fawr o gofiannau wedi eu cyhoeddi - rhai yn fwy swmpus nag eraill," meddai.
"Roedd yna amrywiaeth o gyfrolau barddoniaeth hefyd," meddai gan gyfeirio hefyd at lyfrau oedd yn gyfuniad o luniau a geiriau a llyfrau am draddodiadau ac arferion gwerin ac amrywiaeth o gyfrolau llenyddol.
"Yn wir yr oedd yr amrywiaeth yn galonogol iawn ac roedd y tri ohonom ni yn gytun ei bod hi yn flwyddyn ryfeddol o dda o safbwynt nofelau - o ran safon felly- ac fe garem ni nodi fod tair nofel wedi methu'r rhestr hir o drwch blewyn yn nig," meddai - ond nid oedd am enwi'r un o'r rheini.
"Yn ogystal â hyn fe roddwyd ystyriaeth ofalus i sawl llyfr haeddiannol arall a fyddai mewn blwyddyn wannach wedi cyrraedd y rhestr hir," ychwanegodd.
Pawb â'i ffefryn"Wrth reswm, efo panel o feirniaid mewn unrhyw gystadleuaeth mae gan bob un eu ffefrynnau ac fe fu anghytuno anorfod a doedd ein panel ni ddim yn eithriad. Roedd gan y tri ohonom ein hoff a'n cas lyfrau a bu cryn ddadlau a thrafod difyr cyn penderfynu ar y deg.
"Rwy'n falch o ddweud, er yr anghytuno, na fu tywallt gwaed a'n bod ni'n tri yn dal i siarad efo'n gilydd!" meddai.
Chwilio am sgwennu da
Yn siarad wedi'r cyhoeddiad eglurodd Huw Meirion Edwards beth oedd ef a'i gyd feirniaid yn chwlio amdano mewn llyfr:

"Sgwennu da, bod rhywbeth wedi ei sgwennu yn gelfydd , yn afaelgar ei fod o'n ddifyr beth bynnag oedd y llyfr boed yn nofel, boed yn astudiaeth boed yn gyfrol o farddoniaeth.
"Bod yna safon o ran y sgwennu," meddai.
Dywedodd nad oedd chwilio am y "poblogaidd" yn nod.
"Yr oeddem ni yn y pen draw yn chwilio am y llyfrau mwyaf teilwng i fod ar restr hir o ddeg - poblogaidd ai peidio.
"Dwi'n gwybod mai rhan o ddiben y gystadleuaeth mae'n debyg ydi marchnata llyfrau a dwi'n croesawu'r ffaith bod yna restr hir.
"Mi roeddwn i'n beirniadu'r gystadleuaeth yma rhyw ddeng mlynedd yn ôl pan nad oedd yna ond rhestr fer a dim ond un noson yn Abertawe ond mae'r peth yn llawer mwy cyhoeddus erbyn hyn a thros gyfnod llawer mwy o amser ac mae hynny'n beth da iawn," meddai.
Un llyfr nad yw ar y rhestr yw nofel Angharad Tomos, Wrth Fy Nagrau I y tynnodd Vaughan Hughes sylw at y gwahaniaeth barn ynglŷn â hi rhwng beirniaid yr Eisteddfod Genedlaethol ac adolygwyr.