Gofynnwyd i Richard Wyn Jones ymateb i sylw ei hen Athro coleg, Kenneth O Morgan: "There is scarcely any Welsh political thought worthy of the name."
Er yn dweud fod y sylw fel clwt coch i darw iddo ef cytunodd fod elfen o wir ynddo gan fod gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi ei "dominyddu" gan un blaid ar wahanol adegau - y Blaid Ryddfrydol am gyfnod ac wedyn y Blaid Lafur:
"A tydi dominyddiaeth un blaid ddim yn cael ei gysylltu â rhyw greadigrwydd mawr yn syniadaethol," meddai.
"Ond ar y cyrion mae yna bethau difyr yn digwydd a phlaid y cyrion ydi Plaid Cymru, gwrthrych y gyfrol. Ac yr oedd yna greadigrwydd a bwrlwm syniadaethol," meddai.
Dywedodd i lawer o ddeallusion y Gymru Gymraeg fod ynghlwm â Phlaid Cymru gan gynnwys Saunders Lewis a W J Gruffydd a ddaeth yn "elyn digymrodedd" iddi.
"Yr ydych yn gallu mynd trwy y llenorion a'r meddylwyr a'r arweinwyr crefyddol ac y maen nhw i gyd gyda rhyw berthynas efo Plaid Cymru," meddai.
"Mae yna lot yn mynd ymlaen yn syniadaethol ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn syniadau yna mae'n destun perffaith."
Yn ystod y sgwrs bu'n sôn hefyd am ddylanwadau oddi allan ar y Blaid - pwnc a fydd yn cael sylw mewn ail gyfrol y mae'n ei sgrifennu.
Gwrthododd gyhuddiad o blwyfoldeb anelwyd at Blaid Cymru gan ddweud iddi dynnu'n helaeth o ffynonellau allanol gan gynnwys Iwerddon.
Ynglŷn â'i olwg ar wleidyddiaeth dywedodd fod ei agwedd ef braidd yn anffasiynol.
"Sef bod gwleidyddion ar y cyfan yn bobl o ddifrif sydd efo syniadau creiddiol y maen nhw'n dal atyn nhw - dydych chi ddim yn mynd i mewn i wleidyddiaeth, ar y cyfan, er mwyn rhyw fri personol ac yn sicr doeddech chi ddim yn mynd i mewn i Blaid Cymru yn ystod y rhan fwyaf o fywyd y Blaid os oedd gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa.
"A dwi'n ffeindio y syniadau gwaelodol yma sy'n tanio pobol yn andros o ddiddorol," meddai.
Ychwanegodd fod ganddo ddiddordeb hefyd gweld syniadau pobl yn addasu ac yn newid yn wyneb profiadau.
Disgrifiodd hon fel elfen "hynod o ddeniadol".
Soniodd hefyd am y berthynas rhwng Saunders Lewis a Gwynfor Evans a'r "tyndra" rhwng y ddau.
Dywedodd fod trwch y boblogaeth heddiw yn genedlaetholwyr o ryw fath a hwnnw wedi symud bellach fwyfwy i gyfeiriad Cymreig.
"Ac wedi symud yn gyflym iawn yn y degawd diwethaf," meddai.
Richard Wyn Jones yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru