BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Rhoi Cymru'n Gyntaf
Deall gwleidyddiaeth Cymru
  • Adolygiad Siôn Jobbins o Rhoi Cymru'n Gyntaf - Syniadaeth Plaid Cymru (cyfrol 1) gan Richard Wyn Jones. Gwasg Prifysgol Cymru, 2007. ISNB 978-7083-1756-3. £18.99.


  • Nid yn aml y dewch chi ar draws llyfr deallusol sy'n mynnu eich bod yn troi'r tudalennau i ddarllen beth ddaw nesaf.

    Llyfr felly, serch hynny, yw cyfrol gyntaf Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru'n Gyntaf - Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).

    Clawr y llyfr Mewn ffordd ddealladwy ond ddeallusol ceisia'r llyfr roi cyd-destun athronyddol Plaid Cymru gan ddangos lle mae ei gwahanol ddylanwadau yn sefyll yn y sbectrwm gwleidyddol a'r athroniaeth y tu ôl i nifer o benderfyniadau a phersonoliaethau yn y Blaid.

    O'r cychwyn
    Mae'r llyfr yn ymestyn o drafodaeth ar beth yw cenedlaetholdeb a chenedligrwydd Cymreig i athrawiaeth gynnar Plaid Cymru o'i sefydlu yn 1925 hyd at y Nawdegau cynnar.

    Ynddi, fel rhagarweiniad i Blaid Cymru, ceir trafodaeth hynod o ddiddorol ar beth a olygir gan 'genedlaetholdeb' lle gwna Jones un o'i sylwadau mwyaf dadlennol ac efallai, dadleuol.

    O'i aralleirio dywed ein bod i gyd yn genedlaetholwyr - o Neil Kinnock i Saunders Lewis - gan ein bod yn "cymryd rhagdybiaeth cenedlaetholaidd yn ganiataol".

    O fewn y fframwaith yma yna dangosir fod syniadaeth Plaid Cymru yn athroniaeth ar beth yw natur cenedl a'i bwrpas yn ogystal â sut mae ei ymryddhau.
    Syniadaeth fawr yn wir.

    Â Jones yn ei flaen i amlinellu ffrydiau deallusol rhai o brif gymeriadau cenedlaetholdeb Cymreig a Phlaid Cymru gan ddangos y dynfa a'r tyndra fu rhwng Saunders Lewis ac aelodau mwy asgell chwith y Blaid ac yna rhwng Saunders Lewis a Gwynfor Evans.

    Mae hefyd yn dadlennu gymaint yn ôl troed Saunders yr oedd Gwynfor yn troedio ac mae'n braf gweld Jones yn trin cymunrodd ddeallusol Saunders Lewis i'w Blaid yn gytbwys gan gofnodi peth o'i syniadaeth amhoblogaidd (os nad sarhaus) ond hefyd gydnabod didwylledd deallusol ac ar adegau, hirben y dyn.

    Gorffen gyda phennod ar gyfnod 'Y Ddau Ddafydd' (Wigley ac Elis Thomas) gyda llwyddiant syniadaeth y Chwith a dylanwadau gwahanol y 1990au cynnar a hefyd lwyddiant tymor syniadaeth pro-Ewropeaidd Dafydd Wigley.

    Teimlo'n estron
    Mae hyd yn oed y mwyaf gwleidyddol yn ein mysg yn aml yn teimlo'n estron ymysg yr holl syniadau deallusol y tu cefn i'n credoau a dyna, mae'n siŵr gen i, fydd natur nifer o ddarpar-ddarllenwyr y llyfr hwn.

    Mae cefndir Richard Wyn Jones yn ddarlithydd yn Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth, yn golygu ei fod wedi ysgrifennu llyfr sy'n gofyn am rywfaint o ganolbwyntio ac mae nifer o'r themâu a'r ieithwedd yn anghyfarwydd i'r darllenydd cyffredin - hyd yn oed rhai sy'n wleidyddol eu naws.

    Ond dyna yw'r her a'r hyn sy'n gwneud y llyfr yma mor gyffrous wrth ddarllen am theoriau gwleidyddol a hynny mewn Cymraeg coeth ond dealladwy.

    Twt ac amyneddgar
    Mae profiad a greddf Jones yn cyflwyno i ni arddull dwt ac amyneddgar wrth esbonio rhag blaen beth fydd y tudalennau nesaf yn eu trafod fel bod y darllennydd yn teimlo'n sâff gyda chanllaw'r awdur.

    Mae cariad yr awdur at ei bwnc a'i ysfa i'w rannu gyda'r darllenydd yn golygu ei fod yn edrych ar ôl y darllennydd ond heb ei nawddogi.

    Ymgais yw hon i gyflwyno llyfr sy'n pontio rhwng yr erthyglau bychan eu darllenwyr sy'n gyfarwydd i droedwyr coridorau academia gyda llyfr ar gyfer gynulleidfa ehangach lai arbenigol.

    Mae Jones yn llwyddo i wneud hynny yn ddifyr a heb restru tudalen ar ôl tudalen o ganlyniadau isetholiadau glawog a diflas o 1925 i'r presennol.

    Yn anhepgor
    Gyda'i chlawr trwsiadus gan yr artist Dewi Bowen mae'r llyfr yma'n anhepgor i unrhyw yn sydd â diddordeb yng Nghymru a'r blaid sydd bellach yn cyd-reoli'r wlad.

    Mae 'na edrych ymlaen yn eiddgar i'r ail gyfrol ac mae gwir angen cyfieithiad Saesneg o'r gyntaf hon er mwyn dyfnhau dealltwriaeth pobl o wleidyddiaeth Cymru.

    Mae'r Gymraeg a Chymru ar eu hennill gyda llyfr o safon Rhoi Cymru'n Gyntaf.
  • Fis Mawrth 2008 cyhoeddwyd bod Rhoi Cymru yn Gyntaf ar Rest Hir Llyfr y Flwyddyn.

  • Gwefan Llyfr y Flwyddyn 2008


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy