Blaenau Mici Plwm Gofynnwyd i Mici Plwm - un o hogiau Llan Ffestiniog - restru ugain o Bethau'r Blaenau. Dyma'i restr - anfonwch chwithau eich un chi . . . Blaenau Ffestiniog - heb anghofio Llan Llwyd llechan ydi fy hoff liw.
Pan yn yr ardal yn teimlo fod gen i berffaith hawl i fod yma. Mae gwreidda fy magwraeth yn ddwfn iawn.
Pobol yr ardal yn agos atoch ac yn ffraeth iawn gyda hiwmor arbenig.
Dim byd gwell na swatio dan y dwfe pan fo hi'n tachian bwrw - dwi wrth fy modd mewn glaw! (wir yr!)
Edrych mlaen yn fisol at dderbyn fy nghopi o Llafar Bro
Teimlo'n saff yma.
Yn ymfalchio pan fydd llwyddiant yn yr ardal.
Mi gewch bopeth da chi isho yma.
Michael Lloyd Jones; Mici Plwm; Meical Ddrwg o Dwll y Mwg; Michalis - ond Meical Llan (Stiniog) pan yn byw yma.
Wedi cadw cysylltiad agos iawn â fy nghyfoedion.
Meddwl am fy mol !! Cinio Ysgol gora yn y byd - Ysgol Gynradd Llan Ffestiniog; Ysgol Central a County Blaenau Ffestiniog.
Mwynhau pob eiliad onoson lansioLleisiau a chael cyfle i sgwrsio hefo Emrys Williams; Eric Twm; Glyn Dairy; Bryn Ty Coch; Maldwyn; Gwenda Lloyd; Ger Fon a llawer a mwy.
Sgwn i ble mae trol eis crim Mr Taddies?
Ma Stiniog fatha No 8 mewn injaroc - o goryn i sawdl pob un ohonom - a dwi'n falch o hynny.
Dei Dw; Crymei; Orthin; Wil Bach; Côrkish; Pines; Cen Crymei; Macmin a Moloch. - rhai o gewri pêl-droed ddoe. Gwych deall fod yr Inter Quarry Cup yn ôl mewn bri
B.B.C.Tra bydd Lleisiau yn yr hen Goparet - Blaenau Bia'r Cyfrwng