BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lliwiau Lleisiau yn y Blaenau
"BBC - Blaenau Biau'r Cyfrwng," oedd geiriau Mici Plwm un o feibion enwocaf bro Ffestiniog wrth agor yn swyddogol ganolfan Lleisiau yn yr hen Go-op yn y dref.

Gyda phob math o weithgareddau ar y gweill yn barod mae cynllun Lleisiau wedi cael cychwyn go iawn ym Mlaenau Ffestiniog gydag agor yr hen Go-op yn y dref yn ganolfan ar gyfer y fenter nos Fawrth, Mai 20.

Cyfle efo cyfrifiaduron Ac yno i ddweud "Mae'n 'gorad rwan" yr oedd un o feibion mwyaf adnabyddus yr ardal, Mici Plwm a gyfeiriodd at y môr o dalent sydd yna i'w feithrin yr ardal dan y cynllun newydd hwn gan BBC Cymru.

Mae Lleisiau yn golygu fod gan y BBC ac yn enwedig BBC Radio Cymru a'r gwasanaeth ar y We, BBC Cymru'r Byd, bresenoldeb yng nghanol y Blaenau am dri mis.

John RobertsYn ystod y cyfnod hwn bydd darlledwyr a'r bobl leol yn cydweithio mewn mentrau darlledu a gweithgareddau yn y gymuned ac ar y we.

Bydd yn gyfle i feithrin talentau ac i gynnig hyfforddiant mewn defnyddio offer radio a darlledu gyda rhaglenni yn cael eu paratoi gan bobl yr ardal eu hunain.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc fo'r ardal fod yn DJs a chyflwyno eu rhaglenni eu hunain ar radio, er enghraifft.

SgwrsDywedodd John Robers, cynhyrchydd gyda'r BBC sy'n cynnal y fenter, fod yna gamargraff ymhlith rhai mai lle llwyd a diliw ydi Blaenau Ffestiniog ond iddo ef gael ei argyhoeddi'n wahanol.

Gan gyfeirio at luniau lliwgar o'r Blaenau ar wal yr hen Go-op gan blant un o ysgolion y dref dywedodd:

"Yn amlwg dydi'r Blaenau ddim yn lle llwyd iddyn nhw ond yn fywiog ac yn lliwgar ac yn gyffrous a'r hyn fydd Lleisiau yn ceisio'i wneud fydd dal y bwrlwm lliwgar yna sydd yn cyffwrdd pob oed yn y Blaenau."

Aled Glynne DaviesYchwanegodd mai ei obaith yw y bydd ysbryd Lleisiau yn parhau yn y fro wedi i'r cynllun ddod i ben.

"Ac yn parhau i hybu y diwylliant a'r iaith yn y fro a'r hyder sydd gan y plant yn eu bro fel sy'n cael ei ddangos yn eu lluniau," meddai.

Penllanw'r fenter, meddai Aled Glynne Davies, golygydd Radio Cymru, a oedd hefyd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol, fydd pythefnos o ddarlledu lleol gyda chyflwynwyr a chyfranwyr lleol am awr a hanner bob nos a gwyl arbennig o ddoniau lleol yn ystod Mehefin a Gorffennaf.

Tairt wedi sgwennu dramaBydd eitemau ar gyfer y rhwydwaith cenedlaethol hefyd ac mae cryn weithgarwch wedi dechrau'n barod ymhlith disgyblion ysgolion y fro gyda chiw yn Ysgol y Moelwyn yn sgrifennu eu drama radio eu hunain.

Law yn llaw a'r gweithgarwch radio bydd dalennau gwe hefyd ar y wefan hon gyda chyfle i bobl leol gyhoeddi lluniau ar y we a rhannu straeon difyr am yr ardal a'i phobl.

Clywed am Lleisiau"Bydd Lleisiau yn dod a'r holl weithgarwch a thalent lleol at ei gilydd fel y bydd pawb yn gallu clywed a gweld gymaint o ddoniau sydd ym Mlaenau Ffestiniog," meddai Aled Glynne Davies.

Ymhlith y rhai oedd yn croesawu'r fenter yr oedd Bryn Williams, cadeirydd Cyfle Ffestiniog, grwp a sefydlwyd yn arbennig i adnewyddu'r ardal.


News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy