|  |
 Gwrthryfel Owain Glyndwr
 Llythyr Owain Glyndwr at Frenin Ffrainc
Llwyddiant Yn 1402 mae hen elyn Owain, yr Arglwydd Grey o Ruthun, yn cael ei ddal. Mae’r unig ddyn yn nheulu Moritmer yn cael ei ddal hefyd. Yn 1404 mae’n cipio cestyll Aberystwyth a Harlech, yn arwyddo cytundeb â’r Ffrancwyr, ac yn cynnal senedd ym Machynlleth, lle mae’n bosibl y cafodd ei goroni’n Dywysog Cymru yng ngwydd cynrychiolwyr Ffrainc, yr Alban a Castile. Daw cymorth o Ffrainc yn 1405, ac erbyn hyn y mae’r rhan fwyaf o Gymru, ag eithrio’r cestyll brenhinol, yn cydnabod awdurdod Owain Glyndwr.
Tro ar fyd Y mae grym Owain yn cyrraedd uchafbwynt yn 1405, ond mae’n flwyddyn o fethiannau hefyd. Mae cyfraniad y Ffrancwyr yn siomedig. Collwyd brwydrau yng Nghastell Grosmont ac ym Mhwllmelyn ger Bryn Buga, ac mae hynny’n tanseilio awdurdod Glyndwr yn y de-ddwyrain. Erbyn 1406 ei obaith pennaf yw y daw rhagor o gymorth o Ffrainc. Ym mis Mawrth mae’n ysgrifennu at frenin Ffrainc yn dweud y byddai Cymru’n deyrngar i’r Pab yn Avignon ac nid i’r Pab yn Rhufain, oedd yn cael ei gydnabod gan Loegr. Mae’r llythyr, a ysgrifennwyd ym Mhennal ger Machynlleth, yn gofyn am gydnabod archesgobaeth Ty Ddewi gydag awdurdod dros esgobion eraill Cymru ac amryw yn Lloegr hefyd, sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, a’r hawl i eglwysi Cymru gadw’u harian. Galwyd am esgymuno Henry IV ac am bardwn llwyr am unrhyw bechodau fyddai’n cael eu cyflawni yn y frwydr yn ei erbyn. Nid yw’r Ffrancwyr yn ymateb. Y mae mab Henry IV - Henry V yn ddiweddarach - yn arweinydd milwrol effeithiol. Mae’n adennill Castell Aberystwyth yn 1408 a Chastell Harlech yn 1409. O hynny ymlaen, ffoadur yn y mynyddoedd yw Glyndwr. Bu farw, yn ôl pob tebyg, tua 1416 yn Kentchurch ar y ffin â Sir Henffordd, cartref ei ferch Alys. Bu cryn ddyfalu ynglyn â lleoliad ei fedd.
Canlyniad y gwrthryfel Y mae canlyniad gwrthryfel Glyndwr yn drychinebus i Gymru. Adroddodd y croniclwyr mai yn ofer y bu’r cyfan a chyhoeddodd brenin Lloegr y byddai’n distrywio Cymru. Fe wnaed difrod helaeth, sy’n nodweddiadol o wrthryfel y werin bobl, sef yr hyn ydoedd ar un olwg. Gellir cyfeirio ato hefyd fel rhyfel cartref, oherwydd nid oedd pob Cymro’n barod i fod yn annheyrngar i goron Lloegr. Fe gymer o leiaf ganrif cyn i’r economi ddechrau adfywio. Y mae’r tyndra a arweiniodd at y gwrthryfel yn dwysáu o’i blegid. Daeth yr uchelwyr Cymreig - ac yr oedd llawer wedi cefnogi Glyndwr - i’r casgliad mai gwell fyddai cydweithio â’r awdurdodau Seisnig yn y dyfodol. Dair canrif a hanner yn ddiweddarach fe ddaw mwy a mwy i gydnabod arwyddocâd y gwrthryfel a gweld yng Nglyndwr yr arwr mwyaf yn hanes Cymru. Mae ei safiad yn ganolog i dwf ymwybyddiaeth o genedligrwydd Cymreig.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|