|  |
 Gwrthryfel Owain Glyndwr Owain Glyndwr
Llinach Owain Owain Glyndwr (Owain Glyndyfrdwy) yw etifedd brenhinlin Powys Wenwynwyn ar ochr ei dad. Ar ochr ei fam mae’n cynrychioli yr hyn oedd yn cael ei hawlio gan ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth. Fe ddaeth brenhinlin Gwynedd i ben pan fu farw Owain Lawgoch yn 1378. Wedi hynny, a bod unrhyw un â’r hawl i’r teitl Tywysog Cymru, Owain Glyndwr yw hwnnw. Fe’i ganed tua 1350, a daeth yn arglwydd ar yr hyn oedd yn weddill o dreftadaeth ei hynafiaid yng Nglyndyfrdwy a Sycharth.
Cefndir Owain Un o wýr y Mers oedd Owain. Milltir sydd rhwng Sycharth â’r ffin â Lloegr. Roedd ei deulu wedi byw yng nghysgod uchelwyr mawr yr ardal, yr Arglwyddi Fiztalan o’r Waun a Chroesoswallt. Mae Owain yn priodi aelod o un o brif deuluoedd y Mers. Mae’n treulio amser yn Llundain ac ym myddin brenin Lloegr; yn wir mae’n ymddangos yn batrwm o’r Cymro oedd wedi derbyn ffyrdd y Saeson. Eto, y mae’n gyfarwydd â hanesion ei bobl ei hunan. Y mae’r beirdd yn cael croeso wrth eu bodd yn Sycharth. Maent yn gwybod pwy oedd ei hynafiaid, ac maent fel pe tai yn ei baratoi i fod yn waredydd y Cymry. Ceir darlun didwyll o’r ddwy wedd o’i bersonoliaeth yn nrama Shakespeare Henry IV.
Cefndir y gwrthryfel
Yn y flwyddyn 1399 mae Richard II yn cael ei ddisodli ac mae’r orsedd yn cael ei chipio gan Henry IV - arglwydd Aberhonddu, Trefynwy, Cydweli ac Ogwr - er yr oedd gan Edmund Mortimer, y prif arglwydd yn y Mers, fwy o hawl i olynu Richard II. Ym mlynyddoedd cynnar ei deyrnasiad y mae Henry’n cael anhawster i gadarnhau ei awdurdod. Y mae amryw yn ei wrthwynebu, gan gynnwys y teulu Mortimer, a theulu pwerus Percy o Northumberland. Yr oedd cysylltiad clos wedi bod rhwng llawer o’r uchelwyr Cymreig a Richard II, a phan gafodd ei ddisodli nid oedd eu teyrngarwch i goron Lloegr mor gadarn.
Gwrthryfel Achos uniongyrchol y gwrthryfel mae’n ymddangos oedd ffrae rhwng Owain â’i gymydog, Reginald Grey, Arglwydd Rhuthun, ac amharodrwydd y brenin i fod yn ganolwr teg. Ar 16 Medi 1400 y mae carfan o’i gefnogwyr yn cyhoeddi Owain yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy. Maent yn ymosod ar drefi’r Saeson yng ngogledd-ddwyrain Cymru cyn diflannu i’r mynyddoedd. Nid oes dim yn digwydd wedyn nes y daw ei gynghreiriaid, y Tuduriaid o Ynys Môn, a meddiannu Castell Conwy adeg y Pasg 1401. Rai misoedd yn ddiweddarach y mae Owain yn ennill brwydr ym Mhumlumon, ac y mae’r gefnogaeth iddo yn dod i’r amlwg ledled y wlad. Y mae’r brenin yn arwain nifer o gyrchoedd yn ei erbyn, ond nid yw ei dactegau traddodiadol yn effeithiol o gwbl. Y mae’r tywydd hefyd yn ei erbyn i’r graddau bod rhai’n dechrau credu bod gan Glyndwr ddylanwad dros elfennau byd natur. Yn ei rhwystredigaeth mae’r Senedd yn cyflwyno Còd Penydiol, sy’n gwahardd y Cymry gwrthryfelgar rhag dod ynghyd, cael swyddi, cludo arfau a byw mewn trefi caerog. Ac mae Saeson sydd wedi priodi merched o Gymru yn atebol i’r un ddeddf hefyd.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|