 Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
Bedd Dafydd ap Gwilym (1320-1380)
Cymdeithas yn tyfu Wrth i’r hinsawdd wella a’r economi ddatblygu mae poblogaeth Cymru, yn ôl pob tebyg, yn dyblu rhwng 1050 a 1300. Oherwydd y cynnydd mae yna fwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r tir, fforestydd yn cael eu torri i lawr, pentrefi’n cael eu datblygu, melinau’n cael eu codi, a strwythur cymdeithasol mwy soffistigedig yn cael ei ddatblygu.
Tro ar fyd Ond mae’r hinsawdd yn newid ar ôl tua 1300. Hafau gwlyb, heintiau yn effeithio ar anifeiliaid, a gor-ddefnydd o’r tir sy’n achosi problemau cynyddol. Erbyn 1320 mae rhif y boblogaeth yn lleihau, ac ni fyddai’n cyrraedd lefel 1300 am 250 o flynyddoedd.
Yna yn 1349, trychineb enfawr. Mae’r Pla Du yn lladd efallai traen o’r boblogaeth, ac mae’n taro eto yn 1361 a thrachefn yn 1369. Y mae colli cynifer o bobl yn cael effaith bellgyrhaeddol. Y mae’r aflwydd yn arwain at obsesiynau morbid a gobeithion am y milflwydd. Oherwydd marwolaeth cynifer o daeogion mae yna alw am weithwyr rhydd, ac mae hynny’n tanseilio’r gwahaniaeth rhwng y rhydd a’r caeth. Y mae marwolaethau ymhlith y boneddigion yn arafu ac atal yr arferiad o rannu eiddo. Mae llawer yn ceisio dal gafael ar eu tir yn unol â Chyfraith Lloegr, sy’n caniatáu iddynt adael y cyfan i’r mab hynaf, proses sy’n arwain at greu stadau anferth. Yn lle’r hen ffordd o wahaniaethu ar sail teulu daw ffordd newydd o wahaniaethu ar sail cyfoeth.
Adferiad Ganrif ar ôl y Pla Du y mae yna arwyddion o adfywiad economaidd. Mae patrwm o fasnach yn seiliedig ar wartheg a defaid yn dod i’r amlwg, patrwm fyddai’n ganolog i’r economi tan y Chwyldro Diwydiannol. Mae porthmyn yn gyrru gwartheg ar draws Cymru i’r ffeiriau mawr yn ninasoedd Lloegr, a gwerthiant gwartheg fyddai’n dod ag arian i’r ardaloedd gwledig. Mae mwy o felinau gwlân yn cael eu hagor, a gwlanen yn cael ei werthu yn y marchnadoedd Seisnig ar y Gororau, Amwythig yn fwyaf arbennig. Gyda’r adfywiad economaidd daw gwell tai - megis y tai hanner-pren a godwyd ger y ffin. Yn gynnar yn yr 16eg ganrif yr oedd poblogaeth Cymru tua 260,000 o’i gymharu â thua 300,000 yn 1300.
Diwylliant
Gwaith Y Cynfeirdd yw’r llenyddiaeth gynharaf, sy’n cynnwys beirdd yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn ne’r Alban. Y mae’r Gogynfeirdd yn perthyn i’r cyfnod 1100 i 1300, ac maen nhw’n cael nawdd y tywysogion Cymreig. Marwnad Gruffudd ap Yr Ynad Goch i Llywelyn ap Gruffudd mae’n debyg yw cerdd orau’r Gogynfeirdd. Diflannodd y tywysogion a daw’r uchelwyr i gymryd eu lle fel noddwyr. Y mae eu beirdd hwy yn cynhyrchu gwaith nodedig, yn enwedig felly Dafydd ap Gwilym (tua 1320-70). Ysgrifennu yn y mesur caeth mewn cynghanedd mae’r beirdd. Mae rhyddiaith y cyfnod yn cynnwys Y Mabinogi, cadwyn o storïau, a phrif gyfraniad y Cymry i lenyddiaeth Ewrop ym marn llawer. Hefyd cawn weithiau crefyddol, hanesyddol a mytholegol. O ran cerddoriaeth, dawn fwyaf y Cymry yw canu mewn harmoni - dawn ddaliodd sylw Gerallt Gymro yn y 1190au. Cynhyrchwyd gwaith pren o safon arbennig iawn, yn enwedig croglenni’r 15fed ganrif. Mae yna gerfluniau safonol ar feddau, er enghraifft, yn Eglwys Fair yn Y Fenni, ac mae’r mynachlogydd a’r cestyll yn tystio i ddawn y seiri maen Cymreig. Y mae Gresffordd, eglwys y plwyf mwyaf cain Cymru, yn adeilad hardd i’w ryfeddu.
 |  | 
|