|  |
 Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
Cymdeithas wledig Cymru
Cymdeithas wledig Yn 1000 ni ellir disgrifio unrhyw ran o Gymru fel ardal drefol. Yn ystod y tri chan mlynedd nesaf mae ugeiniau o drefi’n cael eu sefydlu - a Bala yr olaf o waith yr adeiladwyr trefol canol oesol yn 1309. Er pwysigrwydd economaidd y trefi, nid yw poblogaeth y trefi ddim mwy na 10% o’r holl boblogaeth. Caerdydd, â phoblogaeth, efallai o 2,200 yn 1300, yw’r dref fwyaf yn ôl pob tebyg. Gan mai yn y wlad mae’r mwyafrif yn byw, mae patrymau tir-ddaliadaeth yn ganolog i fywyd y gymdeithas. Y mae’r Cymry brodorol yn cael eu rhannu’n ddau ddosbarth - y caeth a’r rhydd. Y mae’r rhydd, y bonheddwyr (y rhai sydd â gwreiddiau), yn dirfeddianwyr am resymau teuluol. Y maent yn berchnogion tir, ar y cyd yn aml, drwy’r grwp teuluol, y gwely. Y mae’r caeth, y taeogion, yn cael tir gan eu harglwyddi, ac yn talu amdano mewn bwyd a gwasanaeth. Yn y dyddiau cynnar, yn ôl hen lyfrau’r gyfraith, roedd y taeogion yn y mwyafrif, ond erbyn 1300 maent yn y lleiafrif yn y rhan fwyaf o Gymru.
Statws cyfreithiol
Cyfraith Hywel Dda, wedi’i haddasu dros y canrifoedd, yw’r ddeddf frodorol o hyd, o leiaf tan y Goresgyniad. Y mae’r syniad o dras a thylwyth yn ganolog i’r ddeddf. Y mae perthnasau y sawl sy’n achosi marwolaeth, niwed neu sarhad yn gorfod talu iawndal i’r sawl y gwnaed drwg iddo. I fonheddwr mae maint yr iawndal neu’r alanas yn dibynnu ar ei dras, tra mae galanas y taeog yn cael ei dalu i’w arglwydd. O’i gymharu â sustemau cyfreithiol Ewropeaidd eraill mae Deddf Cymru yn rhoi statws eithaf uchel i wragedd, yn enwedig wrth ymdrin ag eiddo gwraig briod a’u hawliau dros eu plant.
Newid cymdeithasol Y mae dyfodiad y Normaniaid yn golygu cysylltiadau cymdeithasol newydd. Mewn llefydd fel Bro Morgannwg mae’r tir yn cael ei drefnu fel ei bod yn gallu cynnal marchog gyda chefnogaeth sustem faenoraidd yn cael ei gynnal gan villeins, mewnfudwyr gan amlaf. Yn y canrifoedd wedi 1000 mae’r gymdeithas Gymreig frodorol yn newid, yn enwedig y syniad bod trosedd yn cael ei chyflawni yn erbyn yr un sy’n rheoli yn hytrach na’r tylwyth, a’r taliadau’n cael eu gwneud ag arian yn hytrach na mewn bwyd a gwasanaeth. Y mae’r defnydd cynyddol o arian yn dangos y cynnydd mewn masnach, proses sy’n trawsnewid y cysylltiadau traddodiadol.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|