|  |
 Diwedd annibyniaeth Cymru
Castell y Bere
Cadarnhau’r goresgyniad Ar ôl rhyfel 1277 yr oedd Edward wedi comisiynu adeiladu pedwar castell sylweddol. Erbyn 1283 mae ei gynlluniau’n fwy uchelgeisiol. Caernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares yw’r amddiffynfeydd mwyaf cymhleth i’w codi yn unman yn Ewrop yn y 13eg ganrif. Maent yn deyrnged i sgiliau gweinyddol Edward a dawn ei bensaer James of St George. Maent hefyd yn arwydd o’r oll oedd yn rhaid i’w wneud i dorri gafael y Cymry ar eu gorffennol. Yn gysylltiedig â phob castell y mae bwrdeistref - a rhai fel yng Nghonwy a Chaernarfon oddi mewn i furiau gwych. Y mae masnach yn y tir oddi amgylch yn cael ei reoli gan estroniaid, ac mae hynny’n creu cryn densiwn.
Gwneud y gorau o’r sefyllfa
Y mae drwgdeimlad yn amlwg yng Nghymru yn y ganrif wedi 1282. Mae i’w weld yn llenyddiaeth y cyfnod, yn enwedig yn y canu brud sy’n sôn am un a ddaw yn waredwr. Mae’n mynegi ei hunan yng ngwrthryfel Rhys ap Maredudd yn 1287, Madog ap Llywelyn yn 1294 a Llywelyn Bren yn 1316. Mae’r anniddigrwydd yn lled gyffredin yn y 1340au ac eto yn y 1370au pan fo Owain Lawgoch, wyr Rhodri, brawd Llywelyn, yn ceisio cymorth y Ffrancod i adennill ei hawliau teuluol yng Nghymru. Eto, roedd y Cymry’n ymwybodol bod rhaid iddynt wneud y gorau o’u byd fel ag yr oedd. Gan fod ganddynt gryn brofiad o ryfela maent yn cael digon o gyfle proffidiol i wasanaethu yn lluoedd brenin Lloegr, neu, fel yn achos Owain Lawgoch ac eraill, yn lluoedd brenin Ffrainc. Er mai aristocratiaid Eingl-Normanaidd yw’r prif swyddogion yng Nghymru ar y cyfan, o rengoedd yr uchelwyr Cymreig y daw llawer o’u dirprwyon, yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle i ychwanegu at eu pwer a’u cyfoeth. Plygu i’r drefn felly, weithiau’n daeogaidd, weithiau’n surbwchaidd, yw prif nodwedd Cymru’r 14eg ganrif. Ond yna, ar ddechrau’r ganrif nesaf, gwrthryfel arall wrth i Owain Glyndwr gamu i’r llwyfan.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|