 Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru Ty Ddewi, Sir Benfro
Dewi Sant a Gwyl Ddewi Yn y ganrif sy’n dilyn, 500 i 600, nid yw’r mynachod mor ddysgedig ond maent yn fwy asgetig. Un enw sy’n sefyll allan yn y cyfnod hwn yw Dewi. Y mae’n llwyr-ymwrthodwr, yn llysfwytäwr, ac yn gredwr cryf mewn gwaith di-baid. Sefydlodd ei fynachdy ar benrhyn gorllewinol yn ymestyn allan i’r môr, lleoliad delfrydol i fod yn un o brif ganolfannau Cristnogaeth Geltaidd. Yn wir, y mae’n bosib ei fod yn ganolfan mwy Gwyddelig na Chymreig. Bu farw Dewi ar Fawrth 1 tua’r flwyddyn 590. Chwe chan mlynedd yn ddiweddarach fe fyddai o leiaf drigain o blwyfi yn dwyn ei enw, yn ymestyn o Dy Ddewi i Sir Henffordd, o Fro Gwyr i ben uchaf Dyffryn yr Hafren. Erbyn y cyfnod yna y mae’r ardal lle mae eglwysi’n dwyn ei enw yn cynnwys esgobaeth Ty Ddewi a thros hanner tirwedd Cymru. A chan fod dydd gwyl Dewi yn cael ei ddathlu mewn mwy o blwyfi na’r un sant arall, y mae’n naturiol iddo gael ei fabwysiadu’n Nawdd Sant Cymru. Abad yw Dewi’n bennaf. Y mae’n bosib ei fod hefyd yn esgob, ond nid yw’n ymddangos bod yna unrhyw sail i’r honiadau a wnaed yn ddiweddarach ei fod yn archesgob gydag awdurdod dros esgobion eraill Cymru.
Y saint yn ‘Oes y Saint’ Y mae gan Dewi nifer o gyfoedion, yn eu plith Teilo, Cadog, Padarn, Beuno a Tysilio. Yr oedd ganddynt hwy eu dilynwyr hefyd. Er enghraifft cysegrwyd pump ar hugain o eglwysi yn enw Teilo erbyn y flwyddyn 1200. At Landdewi gellir ychwanegu Llandeilo, Llangadog, Llanbadarn, Llanfeuno a Llandysilio. Y mae tua mil o blwyfi yng Nghymru, ac y mae hyd at hanner yr enwau yn dechrau gyda Llan. Ystyr gwreiddiol y gair oedd tir wedi’i gysegru ar gyfer claddu Cristnogion, yn hytrach nag adeilad. Er mor gyffredin yw enwau Dewi a’i gyfoedion, y mae llawer o’r llannau wedi eu cysegru i gymeriadau canolog Cristnogaeth, megis Mair, Pedr a Mihangel (Llanfair, Llanbedr, Llanfihangel.) Ond y mae hefyd enwau llai amlwg, pobl nad oedd wedi chwennych bod yn saint, ac efallai nad oeddent wedi gwneud mwy na rhoi’r tir i’w ddefnyddio fel mynwent.
Cymru a Christnogaeth Lloegr
Yr oedd y Cymry yn ‘Oes y Saint’ mewn cysylltiad agos â’u cyd-Geltiaid. Ond yn wahanol i’r cenhadon Gwyddelig nid ydynt yn ymdrechu’n galed i ennill y Saeson paganaidd at Grist. Y mae Cristnogaeth Rufeinig yn cyrraedd y Saeson yn 597 pan ddaeth Awstin Sant i Gaer-gaint. Yr oedd wedi’i benodi gan y Pab, felly yr oedd yn disgwyl i esgobion Cymru ufuddhau iddo. Ond maent yn gwrthod gwneud hynny, ac yn gwrthod hefyd cydymffurfio ag arferion Rhufeinig, megis y drefn o bennu dyddiad Y Pasg. Ond yn ystod y ganrif sy’n dilyn y mae mwyafrif yr eglwysi Celtaidd yn derbyn Y Pasg Rhufeinig. Pan fo’r hanesydd Seisnig Beda yn ysgrifennu hanes Eglwysig y Saeson yn 731, y mae Cymru’n dal i wrthod cydymffurfio - a dyna’r rheswm, fwy na thebyg, pam ei fod mor elyniaethus tuag at y Cymry.
Cymru a chanrifoedd diweddarach yr Eglwys Geltaidd Y mae’r Cymry’n derbyn Y Pasg Rhufeinig yn 768. Y mae'r Eglwys yn creu gweithiau celfyddyd gain, megis llyfr Teilo a’r croesau ym Margam a mannau eraill. A phan fo’r Brenin Alfred tua 880 yn chwilio am ddyn dysgedig i godi safon ei lys, y mae’n troi at Asser o Dy Ddewi, a’i alw i Wessex. Eto, bron ddau can mlynedd yn ddiweddarach, pan mae Gwilym Goncwerwr yn cipio’r orsedd yn Lloegr, y mae’r Eglwys yng Nghymru yn wahanol ac yn ynysig o hyd.
 |  | 
|