|  |
 Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
Abaty Tyndyrn
Natur yr eglwysi Celtaidd Am bum can mlynedd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yr oedd gan Gristnogaeth Cymru ei nodweddion arbennig ei hunan. Y mae’r nodweddion hyn yn gyffredin i’r gwledydd Celtaidd eraill, Iwerddon, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw a’r rhan fwyaf o’r Alban. Y drefn yn Eglwys Rhufain oedd esgobion mewn dinasoedd, pob un un â’i esgobaeth a’i swyddogion ei hunan. Ond nid oedd gan yr Eglwysi Celtaidd fawr ddim canolfannau trefol; yr oedd mwy o barch tuag yr abad yn ei fynachdy nag i’r esgob yn ei gadeirlan, a phrin yw’r fiwrocratiaeth sydd i’w gweld yn y drefn Rufeinig. Yn ôl yr hanesydd Arnold Toynbee, y traddodiad crefyddol Celtaidd yw prif nodwedd yr hyn mae e’n ei alw’n Wareiddiad y Gorllewin Pell Ewropeaidd.
A oedd yr eglwysi Celtaidd yn ‘Brotestannaidd’? Pan fo’r Protestaniaid yn cefnu ar Eglwys Rufain yn yr 16fed ganrif, maent yn edrych ar yr eglwysi Celtaidd fel enghreifftiau cynnar o Brotestaniaeth, yn rhydd o feiau eglwys Rhufain. Ond nid yw’r farn yna’n gywir. Y mae athrawiaethau canolog yr eglwysi Celtaidd, ar y cyfan, yn Gatholig. Nid yw’r Pab yn amlwg, nid am fod y Celtiaid yn teimlo eu bod ar wahân i’r Eglwys fyd eang, ond oherwydd pellter, a’r ffaith nad yw’r syniad am sofraniaeth y babaeth wedi ei ddatblygu'n llawn.
Tarddiad Cristnogaeth Geltaidd
Y mae tarddiad Cristnogaeth Geltaidd wedi bod yn bwnc cryn ddadlau. A yw’n ddatblygiad o’r Gristnogaeth a blannwyd ym Mhrydain yn nyddiau’r Ymerodraeth Rufeinig, neu a oes rhaid edrych i gyfeiriadau eraill? Y duedd bresennol yw credu bod Cristnogaeth Brydeinig yr ymerodraeth yn goroesi yn ne-ddwyrain Cymru, yr unig ran o Britannia na chafodd ei goresgyn gan bobl o’r tu hwnt i ffiniau’r ymerodraeth. Yma y mae Dyfrig, y cyntaf o ‘saint’ yr Eglwys Geltaidd, yn byw. Yr oedd ei bencadlys yn Henllan (Hentland on Wye heddiw yn Sir Henffordd.) Ni ellir pennu dyddiadau pendant yn y cyfnod hwn, ond mae’n debyg bod Dyfrig yn byw rhwng 425 a 505.
Y Mynachdy yn Llanilltud Fawr Olynydd Dyfrig fel y ffigwr amlwg ymhlith Cristnogion Cymru yw Illtud, sylfaenydd y mynachdy yn Llanilltud Fawr. Gellir cyrraedd Llanilltud o’r môr, ac mae ei draddodiadau yn awgrymu dylanwad pobl oedd yn teithio’r moroedd. Y maent yn cyflwyno mynachaeth, y syniad mai’r ffordd orau i gyrraedd stad o sancteiddrwydd yw trwy ymwadu â’r byd a byw mewn cymuned sydd yn gwneud gweddi yn ganolbwynt bywyd. Y mae’r mynachdy yn Llanilltud yn pwysleisio dysg yn ogystal â defosiwn. Dyma ganolbwynt Cristnogaeth y gwledydd Celtaidd. Y mae Samson, sefydlydd mynachaeth yn Llydaw, yn gadael Llanilltud am Lydaw tua 540. Un o’i gyd-fyfyrwyr yw Paul Aurelian, a chwaraeodd ran amlwg ym mynachaeth Cernyw, ac at Illtud a’i olynwyr y mae’r Gwyddelod yn troi am arweiniad ar faterion yn ymwneud â defod a disgyblaeth.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|