|  |
 Cenedl Newydd Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol
Protest Yn eironig efallai, wrth i fwy a mwy o sefydliadau gael eu creu yng Nghymru, mae’r hyn sy’n gwneud Cymru’n wahanol yn ddiwylliannol yn cael ei erydu. Mae’r bleidlais yn erbyn datganoli yn 1979 yn cael ei ystyried yn ymddiwyllianu – bod gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol y Saeson yn meddiannu’r gwerthoedd Cymreig. Un o’r ffactorau sy’n achosi hyn yw’r mewnfudo o Loegr, yn enwedig i’r ardaloedd gwledig a threfi glan y môr y gogledd – datblygiad sy’n arwain at yr ymgyrch llosgi tai haf. Mae yna bryder cynyddol oherwydd y lleihad yn y ganran sy’n siarad Cymraeg, mae’n gostwng o 29% yn 1951 i 18% yn 1991. Pryderon o’r math sy’n arwain at ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962, sy’n barod i dorri’r gyfraith er mwyn sicrhau statws swyddogol i’r iaith Gymraeg. Fe gyfrannodd ymgyrchoedd y Gymdeithas tuag at nifer o ddatblygiadau, megis ffurflenni ac arwyddion ffyrdd Cymraeg, sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a gwneud y Gymraeg yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn y 1970au mae protestiadau’r gymdeithas ac eraill yn creu consensws sydd o blaid sianel deledu Cymraeg. Cyn sefydlu’r sianel yn 1982 bu’n rhaid i Gwynfor Evans fygwth ymprydio. Mae’r ymgyrchoedd yn gwneud yr iaith yn llai o bwnc gwleidyddol; os oedd yn amlwg yn refferendwm 1979 ni chafodd fawr o sylw yn refferendwm 1997.
 Misoedd cynnar y Cynulliad Cymreig
Pleidleisiwyd dros y Cynulliad Cymreig o drwch blewyn yn unig. Bu’r misoedd cyntaf yn rhai digon dadleuol. Cyn ei sefydlu bu’n rhaid i Ron Davies, a fu’n ganolog i’w sefydlu, ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Bu dadlau ynglyn â lleoliad y Cynulliad, ac yr oedd yna gryn chwerwder, yn enwedig yn Abertawe. Nid oedd pawb yn croesawu penodi Alun Michael yn brif ysgrifennydd – i lawer roedd y Blaid Lafur yn ganolog wedi ymyrryd yn ormodol. Tri chynnig i Gymro, medd yr hen ddywediad – ac ar y trydydd cynnig, yn Chwefror 2000, mae Rhodri Morgan wedi’i ddewis yn brif ysgrifennydd. Ni allwn ond edrych ymlaen yn eiddgar at yr hyn fydd yn digwydd nesaf. |  | 
|  © MM | | |
|
|