|  |
 Cymdeithas Newydd  Mewn rhai ardaloedd o'r wlad mae mwy o wragedd nag o ddynion mewn gwaith
Lle’r wraig Mae un o’r newidiadau mwyaf yn y gymdeithas Gymreig yn ystod y ganrif ddiwethaf yn ymwneud â lle’r wraig a’r effaith mae hynny wedi ei gael ar y syniad traddodiadol am fywyd teulu. Yng Nghymru yn oes Victoria, y gwragedd oedd ‘angylion yr aelwyd’, ac ar ddechrau’r 20fed ganrif prin yw’r swffragetiaid tanbaid yma. Mae rhywfaint o newid yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel wrth i wragedd gael yr un hawliau pleidleisio a dynion, a chydnabod bod ganddyn nhw’r un hawliau dros eu plant a’u heiddo ag sydd gan eu gwyr. Eto, yn 1945 mae llai na chwarter y gweithlu yn wragedd. Mae’r ganran yn codi’n gyflym yn y blynyddoedd sy’n dilyn, yn rhannol oherwydd lleihad y diwydiannau trymion. Erbyn y 1990au mae Treorci yng Nghwm Rhondda yn un o amryw o lefydd yng Nghymru lle mae mwy o wragedd yn gweithio nag o ddynion. Ond nid yw’r gwragedd yn ennill cymaint â’r dynion. Nid yw teuluoedd yn cael cymaint o blant – tuedd a ddechreuodd yn 1920au, ac erbyn 2000 rhyw aros yn ei unfan mae rhif y boblogaeth. O ran bywyd teuluol nid yw’r syniad o gyplau yr hyn a fu ac mae mwy a mwy o famau sengl, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae gallu’r wraig i reoli ei ffrwythlondeb yn wahanol iawn i’r hyn a fu yn y gorffennol, ac nid yw arwyddocâd llawn hyn wedi amlygu’i hun eto. Mynd a dod Ar ddechrau’r 20fed ganrif mae maes glo de Cymru fel magned, yn denu pobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, ac mae pobl yn heidio o’r ardaloedd gwledig i chwilio am waith. Erbyn diwedd y ganrif, mae’r darlun wedi newid. Yn yr ardaloedd glofaol mae dros 80% o’r boblogaeth wedi eu geni yng Nghymru, ond yn yr ardaloedd gwledig mae’r ganran yn llai 50%. Mae nifer o resymau am y newid: mae tir a thai yng nghefn gwlad yn gymharol rad, pobl yn hoffi’r bywyd hunan-gynhaliol, y datblygiadau ym maes cyfathrebu electroneg - ffactorau sy’n gwneud byw yn bosibl hyd yn oed yn y mannau mwyaf anghysbell. Mae’r mewnlifiad o bobl nad ydynt yn Gymry a’r ffaith bod Cymry brodorol yn gadael eu cymunedau yn creu tensiynau yng nghefn gwlad. Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, â Chaerdydd a phoblogaeth fwy cosmopolitan nag unrhyw borthladd arall ym Mhrydain ag eithrio Llundain, ychydig iawn o bobl o’r tu allan i Ewrop oedd i’w gweld yng ngweddill Cymru. Erbyn diwedd y ganrif mae yn y trefi mawrion gymunedau sylweddol o bobl a’u gwreiddiau yn y ‘Gymanwlad Newydd’ ac mae eu diwylliant wedi cyfoethogi bywyd yng Nghymru. Cymdeithas Secwlar Ar ddechrau’r 20fed ganrif mae duwioldeb y Cymry yn destun balchder. Mae’r mwyafrif yn arddel cysylltiad â chrefydd gyfundrefnol, ac mae yna adfywiad crefyddol adeg diwygiad 1904-05. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif mae Cymru yn un o wledydd mwyaf secwlar Ewrop; y mae llai na 10% o’r boblogaeth yn arddel cysylltiad ffurfiol â lle o addoliad. Yr oedd parchu’r Sul yn ganolog i fywyd y Cymry ganrif yn ôl, ond fe gollodd y Sul ei le arbennig ym mywyd pobl – fel y dengys y pleidleisio a fu droeon ynglyn ag agor tafarndai ar y Sul. Mae’r bobl a dreuliodd gymaint o amser yn y capeli a’r eglwysi bellach yn chwilio am bethau eraill i’w gwneud a’u hamser. Nid fod y dirywiad crefyddol wedi gwneud pobl yn llai tosturiol, a gellir dweud bod Cymru yn y flwyddyn 2000 yn llai gormesol ac yn fwy goddefgar nag oedd yn y flwyddyn 1900.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|