
Cafwyd dirywiad yn y diwydiant gloNewid Mawr
Mae Cymru 2000 yn wahanol iawn i Gymru yn 1945. Yn 1945 yr oedd 30% o’r gweithlu Cymreig (dynion) yn gweithio yn y diwydiant glo neu ddur a 10% yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Y mae gan lai nag un teulu ymhob deg gar, ac ystyried bod teulu yn y dosbarth gweithiol oedd ag incwm o ddeg punt yr wythnos yn gwneud yn dda. Y mae rhannau helaeth o’r wlad heb na thrydan na dwr tap o hyd; ar wahân i’r aelwydydd cefnog, mae’r gweddill yn defnyddio glo i goginio, mangl wrth wneud y golch, a’r ciosg ar fin y ffordd os am wneud galwad ffôn. Er bod y Bwrdd Marchnata Llaeth yn sicrhau siec fisol i rai ffermwyr, rhyw grafu byw mae’r mwyafrif sy’n gweithio’r tir. Erbyn diwedd y ganrif mae’r diwydiant glo wedi diflannu i bob pwrpas, mae’r gweithfeydd dur mawr yn Shotton, Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi cau, ac mae nifer y rhai sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth wedi haneru. Bu cynnydd yn y diwydiant gwasanaethau, mae’r diwydiant electroneg yn gyflogwr o bwys ac mae miloedd mewn swyddi proffesiynol a gweinyddol.
Mae cefn gwlad wedi newid yn llwyr, mae pobl yn mwynhau’r un moethusrwydd a phobl y trefi, a lleiafrif bellach sy’n byw yn y wlad sy’n uniongyrchol dibynnol ar y tir am eu bywoliaeth. Er bod y newidiadau wedi rhoi gwell safon byw i bobl, maen nhw wedi creu problemau hefyd. Mae nifer y cymunedau lle mae’r mwyafrif yn teimlo eu bod ar ymylon cymdeithas, o bosib, yn fwy yn 2000 nag oedden nhw yn 1945.
Gwleidyddiaeth a’r Economi
Yn y blynyddoedd yn syth wedi’r rhyfel mae disgwyliadau pobl yn uchel yng Nghymru. Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chymeradwyaeth trwch poblogaeth Cymru, a sefydlu’r wladwriaeth les a’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, yn creu sustem i gefnogi’r diwydiant amaeth, yn gwladoli nifer o ddiwydiannau – polisïau sy’n cael mesur helaeth o gefnogaeth, o leiaf tan y 1970au. Roedd yna groeso arbennig o frwd i’r penderfyniad i wladoli’r prif ddiwydiant yng Nghymru, glo. Ond yna fe ddechreuodd pobl droi at fathau eraill o danwydd, olew yn arbennig, a bu llai a llai o alw am lo, a bu’n ergyd farwol i’r diwydiant. Yn 1945 yr oedd 124,000 o lowyr yng Nghymru, 33,000 yn 1975 a llai na mil yn y 1990au.
Serch hynny, roedd y diwydiant yn dal yn bwysig yng Nghymru tan y 1980au, fel y gwelwyd adeg streiciau’r glowyr yn 1973 ac 1974 ac yn fwy fyth yn adeg streic 1984-85. Margaret Thatcher oedd yn brif weinidog, ac yn dilyn safiad y llywodraeth cafodd y diwydiannau a’r gwasanaethau yr oedd Llafur wedi eu rhoi yng ngofal y sector cyhoeddus ar ôl y rhyfel eu dadwladoli. Erbyn diwedd yr 20 ganrif y mae agweddau eraill ar yr hyn a gyflawnodd y llywodraeth yna, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a chymorth i amaethwyr, dan fygythiad.
