|  |
 Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
 Milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Y Rhyfel Byd Cyntaf Bu farw tua deugain mil o Gymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un agwedd yw’r marwolaethau o’r helbulon sy’n rhan o brofiad y Cymry fel mae’n rhan o brofiad gweddill trigolion Ewrop. Un o brif ganlyniadau’r rhyfel yw’r effaith ar yr economi. Cyrhaeddodd y galw am lo ei benllanw yn 1913. Ond nid oes modd cynnal y galw hyn, ac mae’r rhyfel a’r ffyniant rhyfeddol ddaeth wedi’r rhyfel yn golygu nad oes adolygiad rhesymegol o lefelau cynhyrchu. Nid yw’r economi’n gwneud cystal yn 1921, rhagflas o’r dirwasgiad fyddai’n blino’r blynyddoedd canlynol. Oherwydd y rhyfel mae pobl yn cefnu ar y Blaid Ryddfrydol, ac yn chwalu’r optimistiaeth oedd yn nodweddu bywyd yng Nghymru cyn y rhyfel. Mae cenedligrwydd Cymreig, oedd mor gadarn ar droad y ganrif, yn troi’n rhywbeth sy’n rhaid ei amddiffyn a’i warchod. Mae’n cael effaith ddifrifol ar gefn gwlad, ac yn ergyd farwol i ystâdau’r tirfeddianwyr. Mae crefydd gyfundrefnol, oedd yn nodwedd amlwg o fywyd oes Victoria ac Edward yng Nghymru, yn dechrau dirywio’n gyflym, yn rhannol am fod ymgyrchoedd recriwtio clerigwyr wedi arwain at sinigiaeth.
Helyntion diwydiannol
Gan fod gobeithion pobl yn uchel, diolch yn rhannol i’r chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia a’r disgwyliad y byddai aberth y miloedd yn y rhyfel yn creu cymdeithas decach, mae’r blynyddoedd yn syth wedi’r rhyfel yn rhai o anniddigrwydd. Mae Cymdeithas Sosialaidd De Cymru yn rhan o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, ac i Lenin mae Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro ym Mhrydain. Yn 1919 mae’n ymddangos bod y Llywodraeth ar drugaredd y glowyr sy’n galw am wladoli’r diwydiant, ond mae Lloyd George yn llwyddo yn ddeheuig iawn i sicrhau parhad yr hen drefn. Er y streic chwerw yn 1921 mae llawer o’r hyn a enillodd y dosbarth gweithiol yn ystod y rhyfel yn cael ei golli. Yn 1926 mae Cyngres yr Undebau Llafur yn trefnu streic gyffredinol i geisio gorfodi’r llywodraeth i ildio’r i’r glowyr, ond corff cymedrol yw’r Cyngres heb stumog mewn gwirionedd ar gyfer gweithred mor chwyldroadol. Mae’r streic a brwydr hir y glowyr yn dod i ben, gan arwain at dranc y gred mewn syndicaliaeth, er mae’r Comiwnyddion, sydd â dylanwad o hyd mewn rhannau o’r maes glo, yn dal i gredu y gall gweithredu diwydiannol arwain at newid.
Diweithdra’n cynyddu Mae’r arwyddion i’w gweld yng nghanol y 1920au - mae diweithdra ymhlith y glowyr yn codi o 2% yn Ebrill 1924 i 12.5% yn Ionawr 1925 a 28.5 ym mis Awst. Maes glo de Cymru, sy’n dibynnu mwy ar allforio na’r meysydd glo eraill ym Mhrydain, sy’n dioddef fwyaf. Bu cwymp yn y galw am lo o dramor am fod y gwledydd hynny’n cynhyrchu mwy eu hunain, roedd mwy yn troi at olew, gwerth y bunt, yr Unol Daleithiau yn cipio marchnadoedd de America, dulliau cynhyrchu hen ffasiwn y diwydiant ym Mhrydain, a cholli’r farchnad Ewropeaidd wrth i’r Almaenwyr dalu iawndal mewn glo. Fe wnaed problem diweithdra yn y maes glo yn y 1920au yn waeth gan gwymp Wall Street yn 1929. Erbyn 1932, a diweithdra wedi cyrraedd 42.8% ymhlith gwrywod, mae Cymru yn un o wledydd mwyaf dirwasgedig y byd. Er mai’r glowyr ddioddefodd waetha, roedd diweithdra’n ddrwg ymhlith y gweithwyr dur ac alcam, y chwarelwyr a gweithwyr cludiant. Mae’n galed ar fyd amaeth hefyd, ac roedd llawer oedd â gwaith llawn amser ar y tir yn ennill llai na’r rhai oedd yn derbyn budd-dal diweithdra.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|