BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Twf y Blaid LafurKeir Hardie yn sgwâr Trafalgar
Keir Hardie yn sgwâr Trafalgar

Ffurfio’r Blaid Lafur
O ganlyniad i Ddeddf Diwygio’r Senedd 1884 mae gan fwyafrif oedolion gwryw Cymru yr hawl i bleidleisio. Mae’r mwyafrif yn fodlon cefnogi’r Blaid Ryddfrydol, rhai oherwydd eu cefndir Anghydffurfiol ac eraill am eu bod yn credu y gall Rhyddfrydiaeth hybu amryw o achosion radical - gan gynnwys lles y dosbarth gweithiol. Yn 1885 etholwyd Mabon yn aelod seneddol y Rhondda; fel arweinydd undeb llafur sy’n derbyn chwip y Rhyddfrydwyr, mae’n gynrychiolydd amlwg y traddodiad Lib-Lab. Ond mae rhai yn dadlau mai buddiannau’r dosbarth gweithiol ddylai fod yn brif nod gan fod mwyafrif y boblogaeth yn perthyn i’r dosbarth hwn. Ffurfiwyd y Blaid Lafur Annibynnol yn 1893; mudiad &acirc delfrydau uchel sy’n sefydlu ambell gangen yng Nghymru ond heb apêl dorfol.Keir Hardie Yn 1890 sefydlwyd Y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur; menter ar y cyd rhwng undebwyr llafur ac aelodau y pwyllgorau sosialaidd, a dyma grud y Blaid Lafur. Cafodd Keir Hardie, ymgeisydd y Pwyllgor yn etholaeth Merthyr Tudful yn 1900, ei ethol. Roedd ei fuddugoliaeth yn drobwynt arwyddocaol. Ond penderfyniad cyfreithiol yn ymwneud â Rheilffordd Dyffryn Taf yn 1901 - yn gwahardd streicio i bob pwrpas - sy’n rhoi terfyn ar y traddodiad Lib-Lab, ac mae hyd yn oed Mabon yn teimlo bod rheidrwydd arno i ymuno â’r Blaid Lafur. Eto, hyd yn oed erbyn 1914, dim ond pump allan o’r tri deg pedwar aelod seneddol sydd gan Gymru sy’n aelodau o’r blaid honno.

Anniddigrwydd y gweithwyr
Mae blynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif yn flynyddoedd o streiciau. Ar ddechrau’r ganrif cafwyd yr anghydfod diwydiannol gyda’r hwyaf yn hanes Prydain - y streic yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, a barodd am dair blynedd. Aeth y glowyr i ymladd yn y Rhyfel BydYn dilyn terfysg Tonypandy yn 1910 mae pobl y Rhondda yn byw dan lygaid milwyr. Terfysg wedyn yn Llanelli yn 1911 a chwech yn cael eu lladd. Mae yna gryn gefnogaeth i syndicaliaeth, y gred y gallai gweithredu diwydiannol wella byd y dosbarth gweithiol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, maes glo de Cymru, lle bu streic fawr gan y glowyr yn 1915, yw un o ardaloedd mwyaf milwriaethus Prydain. Ar ôl y rhyfel, chwalwyd breuddwydion y dosbarth gweithiol gan fethiant Streic Gyffredinol 1926. O hynny ymlaen mae diweithdra enbyd yn amddifadu’r gweithwyr o’u gallu i fargeinio, er mae’r glowyr yn llwyddo yn y 1930au i gael gwared &acirc’r undebau sy’n cael eu rheoli gan y cyflogwyr.

Llwyddiant y Blaid Lafur
Er yn blaid leiafrifol yn 1914 mae Llafur yn ennill hanner etholaethau Cymru yn 1922. Y mae hyn yn rhannol o ganlyniad i ddiwygiadau seneddol 1918, sy’n rhoi i’r ardaloedd diwydiannol fwy o aelodau seneddol ac yn rhoi’r bleidlais i wrywod ifanc nad ydynt yn berchen ty. Yn fwy arwyddocaol, serch hynny, yw effaith y rhyfel ar y Blaid Ryddfrydol. Tanseiliwyd hyder pobl mewn plaid oedd yn sefyll dros ryddid yr unigolyn, a hefyd gan benderfyniad Lloyd George i dderbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr i fod yn brif weinidog yn 1915. Ond mae’r gefnogaeth i’r Rhyddfrydwyr yn dal yn gryf yn yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. Yn 1945 mae saith allan o’r deuddeg aelod seneddol Rhyddfrydol drwy Brydain yn cynrychioli etholaethau gwledig Cymreig. Ond mae’r bobl yn yr ardaloedd diwydiannol yn cefnu ar y blaid. Er 1922 y Blaid Lafur fu ar y brig yng Nghymru. Yn 1931 pan nad oedd gan y Blaid Lafur ond 52 o aelodau seneddol, y mae un ar bymtheg o’r rheini yn cynrychioli seddau yng Nghymru. Daw llwyddiant mwyaf y blaid yn etholiad cyffredinol 1966. Enillwyd tri deg dwy allan o dri deg chwech etholaeth, a chafwyd 61% o’r bleidlais boblogaidd.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol

  17. Twf y Blaid Lafur
    Tud 1,Tud 2,

  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
BBC
© MM


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy