|  |
 Twf y Blaid Lafur Castell Cyfarthfa
Anniddigrwydd y Werin Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, dim ond 10% o’r boblogaeth sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth, ac mae Cymru’n amlwg yn wlad ddiwydiannol. Er bod Lloegr a’r Alban yr un mor ddiwydiannol mae’r dosbarth canol yng Nghymru yn llai, a gellir dadlau mai Cymru yw’r wlad broletaraidd gyntaf yn y byd. Erbyn hyn mae yng Nghymru draddodiad hir o brotestio ymhlith y dosbarth gweithiol. Bu helyntion difrifol yn Nhredegar yn 1816, ac roedd y Teirw Scotch - grwp yn ceisio uno’r dosbarth gweithiol trwy drais - yn amlwg iawn yn enwedig yn Sir Fynwy. Gwrthrych llawer o’r protestio yw’r meistri haearn a’u gafael tyn ar fywydau’r gweithwyr.
Y meistri haearn yw’r cyflogwyr, nhw hefyd yw’r landlordiaid, perchnogion y siopau bwyd, yn rheoli hynny o lywodraeth leol sy’n bodoli, a hefyd mewn rhai achosion, yn ynadon lleol. Merthyr Tudful yn 1831 yw lleoliad y gwrthryfel gwaethaf i’w weld ym Mhrydain yn y 19eg ganrif. Un rheswm am y gwrthryfel yw’r ansefydlogrwydd a grëwyd gan y galw am ddiwygio’r senedd. Ond yn y bôn, y rheswm am y gwrthryfel yw profiadau unigryw y Cymry o’r chwyldro diwydiannol. Cafodd o leiaf ugain eu lladd y tu allan i westy’r Castell yn y dref. Mae gwrthryfel y Siartwyr yn 1839 yr un mor waedlyd. Roedd y Siartwyr yn galw am bleidlais i bob dyn. Trefnwyd gorymdaith i Gasnewydd, yn rhannol i brotestio ond yn rhannol hefyd yn ymgais i achosi chwyldro. Cafodd o leiaf ugain eu lladd ger Gwesty Westgate, a chafodd yr arweinwyr eu halltudio, gan gynnwys John Frost, a fu ar un adeg yn faer y dref.
Undebau Llafur Yn ôl yr hanesydd, Gwyn Alfred Williams, daeth cyfnod cyntefig y dosbarth gweithiol Cymreig i ben adeg terfysg Merthyr. Mae yna bwyslais o hynny ymlaen ar drefniadaeth. Daeth undebaeth llafur i Gymru yn 1830 pan ymunodd glowyr Sir y Fflint â’r Friendly Associated Coalminers Union; ffurfiwyd undeb ym Merthyr flwyddyn yn ddiweddarach. Hanes cymysg sydd i undebaeth yn yr hanner can mlynedd sy’n dilyn. Aflwyddiannus fu ymdrechion Robert Owen o’r Drenewydd i greu un mudiad i’r dosbarth gweithiol (1834). Ffurfiwyd undebau i’r crefftwyr yn y 1850au, ond ar gyfer math arbennig o weithwyr yn unig. Ar ddechrau’r 1870au mae’r glowyr yn ceisio ffurfio undeb effeithlon, ond yn aflwyddiannus oherwydd gwrthwynebiad y cyflogwyr. Yn y degawd sy’n dilyn mae undebau lleol yn cael eu sefydlu, yn enwedig yng Nghwm Rhondda, diolch i bobl fel William Abraham (Mabon). Daeth Undebaeth Newydd i’r amlwg ar ddechrau’r 1880au, yn enwedig ymhlith y docwyr a gweithwyr y rheilffyrdd. Ond o gofio pwysigrwydd glo yng Nghymru, y datblygiad allweddol yw ffurfio Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898. Nid iddynt hwy ddulliau cymedrol arweinwyr megis Mabon. Maes o law fe fydd aelodaeth yr undeb yn fwy nag unrhyw sefydliad secwlar arall yn hanes Cymru.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|