|  |
 Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol Coleg Prifysgol Caerdydd
Y gwahaniaethau’n cael eu cydnabod Mae hyn yn digwydd yn bennaf oherwydd natur ddemocrataidd cynyddol y gymdeithas Gymreig. Mae’r bonheddwyr Anglicanaidd, a fu mor ddylanwadol am ganrifoedd, yn gweld eu hunain yn yr un dosbarth a gwyr mawr Prydain. Er bod ganddynt rywfaint o gydymdeimlad tuag at Gymru, maent yn tueddu i glosio at ei gilydd pan fo Cymreictod yn amlygu ei hunan a hynny yng ngwisg Anghydffurfiaeth radical. Hawliau’r Cymry fel Anghydffurfwyr sy’n cael eu tanlinellu gan Henry Richard, aelod seneddol Merthyr Tudful o 1868 i 1888. Mae daliadau gwleidyddion ifancach, megis Thomas Edward Ellis, aelod seneddol Meirionydd o 1886 i 1899, yn llai sectyddol. O dan ddylanwad y mudiad hunan lywodraeth yn Iwerddon mae Ellis ac eraill yn pwyso am fesur o hunan lywodraeth i Gymru, sustem addysg Gymreig, a deddfwriaeth i ryddhau tenantiaid Cymru o afael eu landlordiaid.
Mae eraill am fynd ymhellach: galw am annibyniaeth lwyr i Gymru wnaeth Michael D Jones, a oedd wedi cefnogi’r ymgais i ffurfio Cymru newydd ym Mhatagonia. Roedd Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) am i’r Gymraeg gael statws swyddogol llawn er mwyn sicrhau urddas pobl Cymru. Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd cyntaf mae hunaniaeth Cymru yn fwy amlwg. Y mae’r newidiadau pennaf ym myd addysg a diwylliant. Rhoddir rhywfaint o statws i’r Gymraeg yn yr ysgolion yn 1889. Sefydlwyd Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872, a cholegau Caerdydd a Bangor yn 1880au, gan arwain at ffurfio Prifysgol Cymru yn 1893. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol yn derbyn siartr frenhinol yn 1907. Mae ysgolheictod Cymreig hefyd yn ennill bri, diolch i lyfrau hanes J E Lloyd yn 1911 a gwaith John Morris-Jones ar yr iaith Gymraeg yn 1913.
Cymru Fydd
Sefydlwyd y mudiad yn 1886. Roedd iddo fwy nag un amcan, rhai efallai yn croes ddweud eu gilydd. Mae’n ceisio hyrwyddo amcanion y Rhyddfrydwyr, hybu ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb, cefnogi achos datganoli i Gymru. Yn y 1890au mae’n gyfrwng i hybu uchelgais Lloyd George, sy’n ceisio rhoi mwy o stamp Cymreig ar bolisïau’r Rhyddfrydwyr yng Nghymru. Ond mewn cyfarfod yng Nghasnewydd yn 1896 dangosodd canran helaeth o gefnogwyr y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru bod hyn yn annerbyniol, ac erbyn diwedd y ganrif mae’r mudiad wedi peidio â bod. Atgyfodwyd cwestiwn hunan lywodraeth yn 1910 gan E T John, yn benodol yng nghyd-destun Iwerddon a’r tebygrwydd y byddai’r Gwyddelod yn cael llywodraethu eu hunain. Mae’r pwnc yn cael ei drafod yn helaeth yn y blynyddoedd yn syth wedi’r rhyfel, ac er bod Cymru’n sicrhau mesur o ddatganoli gweinyddol, nid oes unrhyw newid sylweddol. Yn 1925 ffurfiwyd Plaid Cymru, ond plaid ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru yw hi tan o leiaf y 1950au.
Cenedl yn newid Mae Thomas Edward Ellis a’r addysgwr o fri, Owen M Edwards, yn portreadu Cymru fel gwlad o bobl ddarbodus, yn ofni Duw, yn siarad Cymraeg ac yn byw yn y wlad. Ond erbyn dechrau’r 20fed ganrif nid dyna fel mae pethau mewn gwirionedd. Mae dwy ran o dair o’r boblogaeth yn byw yn siroedd Morgannwg a Mynwy. Mae’r mwyafrif felly yn byw yn yr ardaloedd trefol a diwydiannol. Er yr adfywiad crefyddol yn niwygiad 1904-05, mae secwlariaeth ar gynydd. Yn 1901 mae hanner poblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Mae’r ganran yn gostwng i 43% erbyn 1911 - y flwyddyn pan fo naw allan o bob deg yn honni eu bod yn deall rhywfaint o Saesneg. Mae’r newidiadau hyn yn codi cwestiynau ynglyn â natur Cymreictod - pwnc a fyddai’n achos gwewyr a dadlau mewn blynyddoedd i ddod.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|