|  |
 Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
 Rhan o Eglwys Loegr oedd yr Eglwys yng Nghymru
Cydnabod cenedligrwydd Cymreig yng nghanol y 19eg ganrif Yn 1850 prin oedd y sefydliadau cenedlaethol Cymreig. Er bod y Methodistiaid Calfinaidd â’u trefniadau ar wahân o fewn Cymru, y mae gan yr Eglwys Wladol bedair esgobaeth yng Nghymru sy’n rhan o archesgobaeth Caer-gaint, ac nid oes gan yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr gyrff canolog gwerth sôn amdanynt. Mae sustem llysoedd Cymru - Y Sesiwn Fawr - yn cael ei diddymu yn 1830, gan adael strwythurau cyfreithiol a gweinyddol Cymru yr un fath yn union â rhai Lloegr. Ar wahân i Gymdeithas y Cymrodorion a atgyfodwyd yn 1820 a Chymdeithas Archeolegol Cambrian a sefydlwyd yn 1846, nid oes yr un sefydliad addysgol na diwylliannol cenedlaethol, ac nid oes yr un gymdeithas economaidd na phroffesiynol sy’n cydnabod undod y wlad. Ystyrir bod tair teyrnas o fewn y Deyrnas Unedig - Lloegr (sy’n cynnwys tywysogaeth Cymru), yr Alban ag Iwerddon. Ac mae’r gred yna’n cael ei hadlewyrchu ym maner yr undeb a’r faner frenhinol. Ni fyddai llawer wedi cefnogi’r syniad bod yna bedair cenedl o fewn y Deyrnas Unedig, a bod Cymru’n haeddu’i thrin yr un fath â chenhedloedd eraill y Deyrnas. Yn ystod y ganrif sy’n dilyn mae hyn yn newid, ac mae’n un o lwyddiannau mawr y Cymry.
Cenedlaetholdeb Cymreig yng nghanol y 19eg ganrif
Er efallai nad yw’n cael ei gydnabod, mae’n bod, ac i’r iaith Gymraeg y mae’r diolch am hynny. Er na chafwyd cyfrifiad yn dangos faint oedd yn siarad Cymraeg tan 1891, yr oedd o leiaf dri chwarter poblogaeth y wlad yn siarad Cymraeg yn 1850, a’r mwyafrif yn uniaith Gymraeg. Mae cryfder y Gymraeg i’w weld yn nifer y cyfnodolion Cymraeg oedd yn cael eu cyhoeddi: yn 1866 mae pum cyfnodolyn chwarterol yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith, pump ar hugain o gyhoeddiadau misol ac wyth yn wythnosol. Roedd cyfanswm y cylchrediad yn gant ac ugain o filoedd. Byddai llyfrau barddoniaeth, yn enwedig rhai Ceiriog, yn gwerthu’n dda - hyd at ddeg ar hugain o filoedd o gopïau. Mae Cymreictod yn amlygu’i hunan mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae i draddodiadau crefyddol Cymreig eu nodweddion arbennig; felly hefyd trefniadau gosod a rhentu eiddo yn ardaloedd gwledig Cymru o’u cymharu â Lloegr; y mae’r mudiadau radical â’u nodweddion eu hunain; y mae cymunedau diwydiannol Cymru yn unigryw. Roedd ymwelwyr â Chymru, teithwyr megis George Borrow, yn argyhoeddedig eu bod nhw mewn gwlad â’i chymeriad arbennig ei hunan.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|