|  |
 Twf Democratiaeth
 David Lloyd George
Rhagor o ddiwygiadau Yn 1867 mae’r Ceidwadwyr o dan Disraeli yn sicrhau ail fesur diwygio sy’n rhoi’r bleidlais i bob gwryw sy’n talu trethi yn y bwrdeistrefi. Yn 1871, yn rhannol am fod y Rhyddfrydwyr Cymreig yn cael eu herlid gan y tirfeddianwyr Ceidwadol, sefydlwyd trefn y bleidlais gudd. Yn 1884 mae’r Rhyddfrydwr yn sicrhau mesur arall sy’n rhoi’r un hawliau pleidleisio i’r siroedd ag sydd gan y bwrdeistrefi. Yn y flwyddyn ganlynol o dan y Ddeddf Ailddosbarthiad mae ardaloedd trefol a diwydiannol Cymru’n cael rhagor o seddau yn y Senedd ar draul y siroedd gwledig a’r trefi marchnad bychain. O ganlyniad mae gan Gymru 34 o aelodau seneddol, 12 yn y gogledd, 14 ym Morgannwg a Sir Fynwy ac 8 yng ngweddill de Cymru.
Yn 1918 rhoddir yr hawl i bleidleisio i bob dyn dros un ar hugain oed, ag eithrio gwrthwynebwyr cydwybodol. Y mae gwragedd dros ddeg ar hugain oed yn cael yr un hawl. Yn 1928 mae pob menyw yn cael yr un hawliau pleidleisio a’r dynion. Yn 1948 mae’r hawl i fwy nag un bleidlais - drwy fod yn berchen ar fusnes neu fod â gradd prifysgol - yn cael ei ddiddymu. Etholiad Cyffredinol 1950 felly yw etholiad gwir democrataidd cyntaf Prydain. Mae llywodraeth leol hefyd yn cael ei democrateiddio, yn bennaf o ganlyniad i Ddeddf Cynghorau Sir 1888 a ffurfio cynghorau dosbarth a phlwyf etholedig yn 1894.
Y newid yn natur cynrychiolaeth seneddol Yn y 1850au yr oedd pob aelod seneddol yng Nghymru fwy neu lai yn perthyn i’r dosbarth tiriog; erbyn 1906 mae’r landlordiaid bron wedi diflannu o Dy’r Cyffredin. Digwyddodd y newid yma yn bennaf yn etholiadau 1868 ac 1885. Yn y naill sicrhaodd Henry Richard fuddugoliaeth ddramatig ym Merthyr Tudful, ac fe gollodd nifer o landlordiaid eu seddau, teuluoedd megis Douglas-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn y llall trechwyd perchennog Wynnstay ac etifedd Gelli Aur, y mwyaf a’r ail fwyaf o’r stadau Cymreig. Er bod rhai o’r teuluoedd sy’n berchen tir yn cefnogi plaid y Chwigiaid, Torïaid yw’r mwyafrif. O ganlyniad i hynny, mae Cymru’n cael ei chynrychioli yn y senedd gan aelodau adain dde yn bennaf. Ond yn 1880, dim ond pedwar Ceidwadwr sy’n cael eu hethol, a dim un yn 1906.
Goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr
Y Blaid Ryddfrydol sy’n elwa fwyaf o’r diwygiadau - y brif blaid wleidyddol yng Nghymru rhwng y 1860au a 1922. Mae’r blaid yn llwyddo i ddenu cefnogaeth o bob dosbarth a haen o gymdeithas. Mae diwydianwyr yn hoffi polisi marchnad rydd y blaid, mae’r dosbarth proffesiynol yn hoffi’r pwyslais ar hunangymorth, fel mae’r dosbarth gweithiol ar y dechrau; mae tenantiaid ffermydd yn cefnogi mesurau diwygio’r tir, ac mae’r Anghydffurfwyr yn gweld mai dyma’r gobaith gorau i ddatgysylltu’r Eglwys. I ganol llwyfan Rhyddfrydol diwedd y 19eg ganrif y daw David Lloyd George. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol ryfeddol pan gafodd ei ethol yn aelod seneddol Caernarfon yn 1890. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif mae’n ymddangos bod yna wrthdaro rhwng yr hen ddaliadau Rhyddfrydol a’r galw am ddiwygiadau cymdeithasol. Ond mae Lloyd George, a’i gynlluniau pensiwn i’r henoed ac yswiriant cenedlaethol, yn llwyddo i roi i’r blaid ddelfrydau radicalaidd newydd. Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ergyd farwol i ragolygon Rhyddfrydiaeth.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|