|  |
 Twf Democratiaeth
 Y Senedd
Cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru cyn Y Diwygio O dan y Ddeddf Uno yr oedd gan Gymru saith ar hugain o aelodau seneddol, a dyna’r drefn hyd y Ddeddf Ddiwygio yn 1832. Maent yn cynrychioli tua 7% o aelodaeth Ty’r Cyffredin, canran sy’n cyfateb fwy neu lai i ganran poblogaeth Cymru o fewn y deyrnas. Yn yr etholaethau sirol, rhydd-ddeiliad sy’n berchen tir sy’n werth dwy bunt y flwyddyn sy’n cael pleidleisio, yn y bwrdeistrefi y bwrdeiswyr sydd fel rheol yn cael pleidleisio.
Mae’r drefn yn y siroedd a’r bwrdeistrefi yn rhoi cyfle i’r tirfeddianwyr droi’r dwr i’w melin eu hunain. Prin yw’r rhydd-deiliad go iawn ac mae hawl y mwyafrif i bleidleisio ynghlwm â’r prydlesi sy’n cael eu rhoi gan y landlordiaid; mae mwyafrif y bwrdeistrefi dan reolaeth perchnogion y stadau a nhw sy’n penderfynu pwy sy’n cael bod yn fwrdeisiwr.
Y mae’r drefn yn llai llwgr yng Nghymru nag yw yn Lloegr; nid oes yr un fwrdeistref sy’n gyfan gwbl bwdr, y mae llai o drefi heb unrhyw gynrychiolaeth, ac nid yw’r anghyfartaledd rhwng y siroedd mor amlwg. Serch hynny, gan fod pleidleisio yn weithred gyhoeddus, a llai na 5% o wrywod â’r hawl i bleidleisio, llwgrwobrwyo yn rhemp a pherchnogion y stadau yr unig ddosbarth ariannog i bob pwrpas, mae’n anorfod bod dylanwad y landlordiaid ar y broses etholiadol yn drwm iawn. Erbyn diwedd y 18fed ganrif mae grwp o ryw ugain o deuluoedd yn rheoli’r gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru; trefniadau preifat sy’n sicrhau mai un ymgeisydd, diwrthwynebiad sy’n sefyll etholiad. Yn etholiad cyffredinol 1830, er enghraifft, nid oedd gornest yn unrhyw un o’r etholaethau Cymreig.
Dechreuadau radicaliaeth wleidyddol
Y mae yna ddigon o dystiolaeth bod yna yng Nghymru yng nghanol y 18fed ganrif ddigon o ddiddordeb cyffredinol mewn carfanau gwleidyddol ond fawr o ddiddordeb mewn egwyddorion gwleidyddol. Mae yna rhywfaint o gynnwrf yn ystod rhyfel Annibyniaeth America, ac eto o ganlyniad i’r Chwyldro Ffrengig.
Yn y 1790au lleiafrif bychan sy’n hyrwyddo syniadau radical, a llawer o’r rheini yn dod o rengoedd yr Anghydffurfwyr. Mae’r mudiad, os oes yna’r fath beth, yn cael ei danseilio gan Lywodraeth orthrymus a ffataliaeth crefyddol, ond mae’r galw am ddiwygiadau yn ail ymddangos mewn papurau megis y Cambrian (a sefydlwyd yn Abertawe yn 1804) a rhai cyhoeddiadau Cymraeg, cyhoeddiadau sy’n dechrau dod i’r amlwg yn y 1820au. Hawliau’r Anghydffurfwyr sy’n cael cryn sylw yng nghylchgronau’r Anghydffurfwyr, pwnc sydd o anghenraid yn herio tueddiadau gwleidyddol y dydd. Yr adeg yma hefyd mae’r diwydianwyr, sy’n ymwybodol o’u cyfraniad i’r economi, yn gynyddol fwy parod i ymosod ar rym y tirfeddianwyr.
Wedi cryn gynnen cafwyd y Mesur Diwygio yn 1832; y mae’n rhoi’r bleidlais i fwy o oedolion gwrywaidd (8% yn lle 5%). Ond mae’r ddeddf yn fwy arwyddocaol am ei fod yn dangos parodrwydd y dosbarth sydd â’r grym yn ei ddwylo i ddiwygio’i hunan, cam sy’n sicrhau bod Prydain yn troedio llwybr democratiaeth heb chwyldro, er bod y llwybr yn un hir a chythryblus. Mae’r ddeddf yn rhoi i Gymru bum aelod seneddol ychwanegol, yn diwygio’r etholfraint yn y bwrdeistrefi, ac yn rhoi’r bleidlais i wrywod yn y siroedd a dalai rent blynyddol o £50 neu ragor.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|