BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Capel ac Eglwys
Y dirywiad crefyddol
Caewyd nifer o gapeli'n ystod ail hanner yr 20fed ganrif

Cryfder Anghydffurfiaeth
Y mae’r adfywiad Anglicanaidd yn sicrhau bod yn eglwys ar ddechrau’r 20fed ganrif mewn safle cryfach mewn perthynas ag Anghydffurfiaeth nag oedd yn 1851. Serch hynny mae cryfder yr Anghydffurfwyr yn amlwg. Er nad ydynt yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth Cymru, mae eu gwerthoedd o’r pwys mwyaf ac mae’r diwylliant Anghydffurfiol yn datblygu i fod yn gyfystyr â’r diwylliant Cymreig. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif fe agorwyd capel newydd yng Nghymru bob wyth diwrnod, a hynny cyn cyfnod codi’r capeli mawrion yn yr ardaloedd diwydiannol. Y mae mwyafrif y papurau Cymreig a’r cyfnodolion yn gysylltiedig â rhyw enwad neu gilydd, ac mae’r gweinidogion amlycaf yn arwyr ymhlith y werin. Mae gwrthwynebiad yr Anghydffurfwyr i’r ddiod gadarn yn rhoi hwb i’r mudiad dirwest, ac yn arwain yn 1881 at y Ddeddf Cau’r Tafarnau ar y Sul. Nodwedd Anghydffurfiaeth yw’r diwygiadau. Bu diwygiad o bwys yn 1859 ac un mwy rhyfeddol fyth yn 1904-05.

Arwyddocâd gwleidyddol Anghydffurfiaeth
Gan fod llawer mwy o gapelwyr nag oedd o eglwyswyr mae’r holl syniad o’r Sefydliad dan fygythiad. Y mae hyn yn digwydd hefyd yn Lloegr, ond gan fod Anghydffurfiaeth gymaint yn gryfach yng Nghymru mae datgysylltu yn datblygu’n achos cenedlaethol Cymreig. pulpud capelY mae’r Ceidwadwyr, amddiffynwyr traddodiadol Eglwys Loegr, yn gwrthod derbyn y gall Cymru lwyddo ar ei phen ei hun ar fater mor sensitif, ac maent yn rhoi’r argraff eu bod yn blaid wrth-Gymreig - datblygiad a fyddai’n milwrio yn eu herbyn am ganrif a rhagor. Y mae’r Blaid Ryddfrydol, sy’n etifeddu amheuon y Chwigiad ynglyn â’r berthynas rhwng yr orsedd a’r allor, yn apelio fwy fwy at yr etholwr Anghydffurfiol Cymreig. O ganol y 19eg ganrif ymlaen mae’r Anglicaniaid yn colli dylanwad. Daeth y Dreth Eglwysig i ben yn 1870 ac ad-drefnwyd y degwm yn y 1880au. Mae’r Sefydliad yn raddol golli’i safle dylanwadol ym myd addysg. Mae rheolaeth llywodraeth leol gan sgwiariaid Anglicanaidd yn dod i ben gyda chynnal etholiadau cyngor sir yn 1889. Yn 1920, ar ôl llawer i helynt, fe ddatgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Crëwyd talaith Gymreig o fewn y cymundeb Anglicanaidd, gyda’i archesgob ei hunan, a chafodd yr hen waddolion eu secwlareiddio. Er bod yr Eglwys yng Nghymru wedi cadw yr hen eglwysi cadeiriol a’r eglwysi yn y plwyfi, mai ei safle o fewn y gyfraith yr un fath a safle’r enwadau eraill.

Y dirywiad crefyddol
Y mae ysgolheictod y ganrif a hanner ddiwethaf yn herio’r hen ddaliadau Cristnogol. Y mae ysgolheictod Beiblaidd yn tanseilio’r gred fod y Beibl yn llythrennol wir. Y mae darganfyddiadau daearegol a’r syniadau am esblygiad yn tanseilio’r gwirioneddau traddodiadol. Gan fod y capeli yn ganolbwynt y bywyd cymunedol mae crefydd fel pe tai yn rhan o fywyd diwylliannol pobl. Mae’r ymgyrch dros ddatgysylltu yn pwysleisio pwysigrwydd maint yr enwadau, ac mae rhif aelodau fel pe tai’n bwysicach na gwir deyrngarwch. Yr oedd rhif aelodau eglwysig ar ei uchaf yn 1907 pan oedd yng Nghymru 750,000 o gymunwyr a llu o ‘wrandawyr’ achlysurol. Wedi hynny, gostwng yn gyson wnaeth y rhif. Cyfrannodd nifer o ffactorau at y gostyngiad - sinigiaeth wrth weld clerigwyr yn recriwtio adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, y chwalfa yn y cymunedau traddodiadol, y cynnydd mewn diddordebau hamdden newydd, a’r cynnydd mewn pleseryddiaeth a phrynwriaeth. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif dim ond un o bob wyth o drigolion Cymru sy’n mynychu lle o addoliad yn gyson - mor wahanol oedd y darlun ganrif ynghynt pan oedd pobl Cymru yn clodfori eu duwioldeb.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol

  14. Capel ac Eglwys
    Tud 1,Tud 2,

  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
BBC
© MM


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy