|  |
 Capel ac Eglwys
 Tu fewn i gapel yn Aberteifi
Cyfrifiad crefydd 1851 Cynhaliwyd unig gyfrifiad crefydd Prydain yn 1851. Y mae’n dangos bod lle i 898,442 o bobl yn addoldai Cymru, ac o’u dosbarthu fesul canran: yr Eglwys Wladol, 32; y Methodistiaid Calfinaidd, 21; yr Annibynwyr, 20; Bedyddwyr, 13; Wesleaid, 12; eraill, 2. Nid yw cofnodi nifer yr addolwyr mor hawdd. Fe ddwedir yn aml bod pedwar allan o bob pump o bobl Cymru oedd yn mynychu lle o addoliad ar 30 Mawrth 1851 yng nghapeli’r Anghydffurfwyr, ond gan fod yr Anghydffurfwyr yn tueddu i fynychu mwy nag un gwasanaeth a’r Anglicaniaid yn mynychu un, y mae hyn yn gor-bwysleisio cryfder Anghydffurfiaeth. Os oedd o leiaf bumed rhan y boblogaeth yn mynychu’r Eglwys Wladol, a thros ddwy ran o bump ddim yn mynychu lle o addoliad o gwbl, y mae’n anodd derbyn bod mwyafrif pobl Cymru yn oes Victoria yn gapelwyr selog.
Enwadaeth
Y mae twf yr enwadau Anghydffurfiol yn deillio o ddiwygiadau efengylaidd y 18fed ganrif. Y mae’n mynd yn anos i’r Methodistiaid Calfinaidd barhau fel mudiad o fewn Eglwys Loegr. Yn 1811 y maent yn ffurfio enwad ar wahân ac yn mabwysiadu trefn Bresbyteraidd o lywodraeth eglwysig. Y mae’n drefn ganolog, yn wahanol iawn i drefn yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, sy’n pwysleisio sofraniaeth yr eglwys leol. Y mae’r Methodistiaid Wesleaidd - sy’n eitha lluosog yn y gogledd-ddwyrain ac yn yr ardaloedd lle mae nifer o fewnfudwyr Seisnig yn byw - hefyd yn ymwrthod â’r syniad o roi’r awdurdod yn nwylo’r eglwys leol. Ymhlith yr enwadau eraill y mae’r Undodiaid a’r Crynwyr - y ddau yn cyfrannu llawer o syniadau radicalaidd - a’r Mormoniaid, a oedd wedi dod yn gymharol ddiweddar o America. Yn 1851 y Bedyddwyr yw’r enwad mwyaf yn Sir Fynwy, yr Annibynwyr ym Morgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog, yr Eglwys Wladol yn Siroedd Penfro, Maesyfed, Trefaldwyn a’r Fflint, a’r Methodistiaid Calfinaidd yn y pum sir arall.
Adfywiad yr Eglwys Wladol
Y mae Anghydffurfiaeth yn llwyddo i ryw raddau oherwydd gwendid yr Eglwys Wladol. Y mae’r sustem blwyfi yn feichus, a’i hesgobion a’i hoffeiriaid yn Seisnig a difywyd. Yn y 19eg ganrif aed ati o ddifri i geisio adfywio’r eglwys. Y mae Thomas Burgess, esgob Ty Ddewi rhwng 1803 a 1825, yn sefydlu coleg yn Llanbedr Pont Steffan i hyfforddi clerigwyr Cymreig; y mae’n dysgu’r Gymraeg ac yn cysylltu’r Eglwys â gweithgareddau diwylliannol Cymreig. Yn y 1830au ad-drefnwyd gweinyddiaeth ac incwm yr Eglwys. Y mae cefnogwyr yr Eglwys Wladol yn creu rhwydwaith o ysgolion elfennol sy’n dysgu’r athrawiaeth Anglicanaidd; erbyn 1870 y mae mil o’r ysgolion hyn yng Nghymru o’u cymharu â thri chant o ysgolion anenwadol. Cafodd cannoedd o hen eglwysi eu hadnewyddu ac fe wnaed ymdrech lew i sicrhau bod addoliad Anglicanaidd ar gael yn yr ardaloedd diwydiannol. Y mae Mudiad Rhydychen, sy’n pwysleisio agweddau Catholigaidd Anglicaniaeth yn dod a ‘phrydferthwch sancteiddrwydd’ Uchel Eglwysig i lawer cymuned ddifreintiedig. Yr un pryd mae’r mudiad yn cryfhau teimladau wrth-Gatholig llawer o Anghydffurfwyr a’r Isel Eglwyswyr, teimladau oedd eisoes yn amlygu eu hunain tuag at fewnfudwyr o Iwerddon oedd yn chwyddo rhengoedd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|