|  |
 Y Chwyldro Diwydiannol
 Pyllau glo yn ne Cymru
Natur y chwyldro diwydiannol yng Nghymru Yng Nghymru mae diwydiant yn canolbwyntio ar gynhyrchu cyfalaf yn hytrach na nwyddau. Y mae’r gweithfeydd haearn yn cynhyrchu haearn yn hytrach na nwyddau wedi’u gwneud o haearn. Nid yw’r crefftwaith haearn oedd mor bwysig i ffyniant Sheffield a Birmingham yn cydio felly yng Nghymru. Mae yna arloesi.
Yn 1784 dyfeisiodd Cort sustem o bydlo haearn tawdd oedd yn galluogi cynhyrchu mwy o haearn mewn llai o amser. Mabwysiadwyd y sustem gan eraill a'i galw y ‘Dull Cymreig’. Ystyrir y dull ffatri o gynhyrchu cotwm fel prif elfen y chwyldro diwydiannol, ond efallai fod datblygu math newydd o gynhyrchu ynni - y peiriant ager - yn fwy arwyddocaol. Fe wnaeth Cymru gyfraniad sylweddol i’r datblygiad yma. Cafodd y rhan fwyaf o’r silindrau a ddefnyddiwyd ym mheiriannau Watt eu cynhyrchu yn Y Bers; y mae’r ddyfais newydd yn cael ei mabwysiadu’n fuan yn ne Cymru; y mae’r arbrofi cyntaf gyda locomotion yn digwydd yng Nghymru, a chyfrannodd Cymru mewn modd anghymesur i anghenion tanwydd trafnidiaeth ager a hynny ledled y byd. Y mae ynni ager yn penderfynu ar leoliad diwydiant.
Erbyn diwedd y 18fed ganrif y mae yna weithgarwch diwydiannol ym mron pob rhan o Gymru. Erbyn canol y 19eg ganrif y mae’n dod yn fwy amlwg ei bod yn talu ffordd i sefydlu diwydiannau yn y meysydd glo lle mae’r tanwydd yn gyfleus i weithio’r peiriannau. Felly, tra mae’r chwyldro diwydiannol yn mynd rhagddo mewn rhannau o Gymru, mae’n chwythu’i blwc mewn rhannau eraill.
Effaith datblygiad trafnidiaeth Nid yw’n hawdd cyrraedd llawer o’r ardaloedd sy’n datblygu’n ddiwydiannol yng Nghymru. Yr ardal fwyaf ffafriol yw’r gogledd-ddwyrain, sydd heb fod yn rhy bell o brysurdeb Sir Gaerhirfryn a phorthladdoedd aber Afon Dyfrdwy, a’r rhanbarth gyntaf yng Nghymru i fod yn rhan o sustem gyffredinol ffyrdd y tollbyrth. Nid mor hawdd yw datrys problem ardal fynyddig maes glo’r de. Ar y dechrau ceffylau sy’n cludo nwyddau rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Codwyd ffordd yn 1767, ond y datblygiad arwyddocaol yw’r camlesi. Erbyn 1800 y mae camlesi yn cysylltu prif gymoedd maes glo’r de â’r porthladdoedd. Y mae menter Ardalydd Bute yn sicrhau un o ddociau Caerdydd yn 1839 yn allweddol i ddatblygiad y dref maes o law. Yn 1841 agorwyd rheilffordd Dyffryn Taf yn cysylltu Merthyr Tudful â’r dociau, a’i gwneud yn bosib i Gaerdydd ddatblygu’n borthladd yn allforio glo yn ogystal â haearn. Y mae dyfodiad y rheilffyrdd yn rhoi hwb enfawr i economi’r Gymru wledig a diwydiannol.
Natur y gymdeithas Gymreig Maes glo de Cymru yw’r unig faes glo ar dir uchel ym Mhrydain. Yn rhannau eraill o Gymru - ar fryniau Sir y Fflint ac ym mynyddoedd Eryri - mae yna ddatblygiadau diwydiannol eraill mewn ardaloedd lle bu ond ychydig bobl yn byw. Y mae natur y tir yn llywio datblygiad y cymunedau diwydiannol hyn, ac mae’r ardaloedd yn ddibynnol ar fewnfudwyr am eu twf. Tan o leiaf yn hwyrach yn y 19eg mae mwyafrif y mewnfudwyr yn dod o ardaloedd gwledig Cymru, ac mae’r boblogaeth gan fwyaf yn Gymry Cymraeg. Y mae canran uchel o’r mewnfudwyr yn ddynion ifanc, di-gyfrifoldeb, a dyma un o’r ffactorau sydd i gyfri am natur ymfflamychol y cymunedau diwydiannol cynnar yma. Bu cynnwrf droeon ym maes glo’r de - ymgyrchoedd y Teirw Scotch yn y 1820au, gwrthryfel Merthyr yn 1831, a’r Siartwyr yn 1839. Roedd bywyd yn ddigon bregus yn y cymunedau hyn - y peryglon dan ddaear a’r ffwrnesi, yr heintiau oedd yn lladd, yn enwedig plant. Ond mae bywyd yn yr ardaloedd gwledig mor galed mae’r ardaloedd diwydiannol yn denu pobl wrth eu miloedd. Rhwng 1801 a 1841 mae Sir Fynwy ar frig rhestr y siroedd sy’n tyfu gyflyma ym Mhrydain ac mae Morgannwg yn y trydydd safle.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|