|  |
 Y Chwyldro Diwydiannol
 Gweithfeydd Haearn Blaenafon
Economi Cymru yng nghanol y 18fed ganrif Yn 1750 y mae’r rhan helaethaf o Gymru yn dal yn wledig. Y mae’r boblogaeth tua hanner miliwn, ond mae’r ardaloedd diwydiannol ar gynnydd. Ar ddechrau’r 18fed ganrif mae’r diwydiannau a sefydlwyd yn ystod teyrnasiad Elisabeth yn datblygu. Gwelir cynnydd yng ngweithfeydd haearn Pontypwl a’r Bers, y mwyngloddiau plwm ac arian yn Sir y Fflint a Sir Aberteifi, y gweithfeydd copr yng Nghastell Nedd ac Abertawe, a’r pyllau glo yng ngorllewin Morgannwg a Sir y Fflint. Ond er y cynnydd, amaethyddiaeth yw sylfaen yr economi o hyd. Mae amaethyddiaeth yn datblygu hefyd. Dechreuwyd cylchdroi cnydau, defnyddio calch, cau tir comin, a datblygu dulliau cynhyrchu yn enwedig yn y diwydiant gwlân.
Y broses ddiwydiannol yn cyflymu
Y mae’r cynnydd yn dechrau go iawn yn ail hanner yn 18fed ganrif. Er hynny rhaid cofio hyd yn oed yn 1811, allan o’r wyth deg wyth cantref yng Nghymru yr oedd mwyafrif trigolion saith deg naw yn dal i ddibynnu ar y tir am eu bywoliaeth. Erbyn 1851, serch hynny, y mae dwy ran o dair o deuluoedd Cymru yn cael eu cynhaliaeth o waith ar wahân i amaethyddiaeth, sy’n golygu, mai Cymru yw’r ail wlad ddiwydiannol yn y byd, yn dilyn Lloegr.
Y mae diwydiannau trymion yn ffynnu o ganlyniad i ryfeloedd. - y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-63), Rhyfel Annibyniaeth America (1775-83), y Chwyldro Ffrengig a Rhyfeloedd Napoleon (1793-1802, 1803-15). Y mae’r amrywiaeth mwyaf o ddiwydiannau yn datblygu yn y gogledd ddwyrain. Erbyn diwedd y 18 ganrif y mae yna bedwar ar bymtheg o weithfeydd haearn yn Nhreffynnon a phedwar ar ddeg o grochendai ym Mwcle; y mae yna felinau cotwm yn Nhreffynnon a’r Wyddgrug; llu o weithfeydd plwm a glo, ac yr oedd un o brif weithfeydd haearn Ewrop yn Y Bers, lle’r oedd y teulu Wilkinson yn arloeswyr wrth ddefnyddio golosg yn hytrach na siarcol i smeltio haearn.
Ond maes o law, yn y de-ddwyrain y mae'r datblygiadau pwysicaf. Y mae gweithfeydd haearn Merthyr Tudful - Cyfarthfa a Dowlais yn fwyaf arbennig - yn rhoi i Gymru ei thref ddiwydiannol gyntaf. Erbyn 1830 y mae de Cymru yn cynhyrchu hanner yr haearn sy’n cael ei allforio o Brydain. Y mae yna ddatblygiadau economaidd o bwys yn ardaloedd Abertawe, Castell Nedd a Llanelli, hefyd yn Amlwch lle’r oedd yna waith copr enfawr, ac yn Eryri lle mae’r chwareli llechi yn disodli cloddio am gopr. Yn y canolbarth y mae’r diwydiant gwlân yn newid wrth i ffatrïoedd gymryd lle’r hen ddulliau cynhyrchu traddodiadol.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|