|  |
 Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
 Newidiadau crefyddol Fel y gwelwyd, nid yw llwybr canol yr Anglicaniaid yn bodloni pawb yng Nghymru. Y mae gan y Catholigion eu cadarnleoedd, yn enwedig yn Sir Fynwy a Sir Fflint. Ond ar ôl i bobl gymryd yn erbyn y pab yn 1678-9, dilewyrch fu hanes yr Eglwys Gatholig nes i’r Gwyddelod ddechrau mewnfudo yn y 19eg ganrif. Stori wahanol yw stori’r Protestaniaid. Oherwydd dylanwad y Rhyfel Cartref a’r Weriniaeth, mae cynulleidfaoedd mwy efengylaidd eu tuedd yn cynyddu o ddau i ddwsinau. Ond wedi adferiad y Stiwartiaid mae yna erledigaeth, ond wedyn maent yn cael eu derbyn yn anfoddog yn 1689. Araf yw’r symud at Anghydffurfiaeth. Erbyn 1676 rhyw un ym mhob ugain o drigolion Cymru, o bosib, sy’n mynychu gwasanaethau’r Sentars, ac yn 1716 rhyw ugain o gapeli sydd yn y wlad o’i gymharu a bron fil o eglwysi plwyf.
Y Diwygiad Methodistaidd Y mae’r brwdfrydedd efengylaidd yn cael ei danio gan y Diwygiad Methodistaidd, a lansiwyd gan Howel Harris ac eraill yn y 1730au. Yn wahanol i’r Methodistiaid yn Lloegr yr un adeg, mae Methodistiaid Cymru yn Galfinaidd o ran diwinyddiaeth ac yn datblygu strwythurau gweinyddol gwahanol. Erbyn 1750 mae 428 o seiadau yng Nghymru. Y mae’r arweinwyr yn meddwl yn nhermau mudiad sy’n adfywio’r Eglwys sefydledig, ac yn gwadu mai eu bwriad yw creu enwad ar wahân. Yn ystod y 18fed ganrif maent yn denu rhagor o ddilynwyr, ac mae eu sêl yn annog yr enwadau Anghydffurfiol, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, i ymestyn cylch eu dylanwad. Ac wrth ddilyn y trywydd yma fe ddaw Cymru erbyn y 19eg ganrif yn wlad lle mae’r Anghydffurfwyr yn y mwyafrif.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|