 Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar Gerddi ffurfiol Aberglasni
Diwylliant llenyddol Rhwng yr 16fed ganrif a’r 18fed ganrif y mae newidiadau cymdeithasol a chrefyddol yn trawsnewid diwylliant llenyddol traddodiadol Cymru o ganlyniad i’r wasg argraffu a syniadau’r Dadeni. Wrth i’r uchelwyr ymseisnigo fwyfwy, a’r mân sgweieriaid fynd yn dlotach, ac i ddiddordebau diwylliannol newid, mae byd y beirdd yn newid. Tan o leiaf flynyddoedd cynnar yr 17eg ganrif y mae llu o gerddi mewn cynghanedd yn cael eu hysgrifennu, ond mae’r llywodraeth yn ceisio ffrwyno’r beirdd llai parchus. Ond mae’r beirdd yn drwgdybio’r gair printiedig a gwerthoedd y Dadeni - arwyddion o’r meddwl caeëdig - ac fe fyddai hynny’n golygu y byddai’r traddodiad yn mynd i ddifancoll.
Ymhlith dyneiddwyr Cymreig y Dadeni y mae yna awydd i ddiogelu purdeb a chyfoeth yr iaith, fel yn achos ieithoedd hynafol yr hen fyd. Maent yn paratoi geiriaduron a llyfrau gramadeg, yn dadlau o blaid hanesion Sieffre o Fynwy ynglyn â tharddiad clasurol y Gymraeg, ac yn ysgrifennu hanes eu gwlad a’u siroedd. Yn bennaf oll, maent yn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith addoliad. Mae balchder diwylliannol yn gyfrifol am hynny lawn cymaint â sêl grefyddol. Hefyd, chwedl yr hanesydd R T Jenkins, ‘mynnai’r bobl ryw fath o lenyddiaeth’, ac mae rhai ond yn rhy barod i’w bodloni trwy gynhyrchu almanaciau, baledi, anterliwtiau, caneuon, carolau ac emynau. Ond wrth i’r hen draddodiad llenyddol edwino mae’r awydd i ddiogelu’r dystiolaeth ohono yn arwain at lawer o gasglu a chopïo llawysgrifau. Yn y 18fed ganrif ceir ymdrechion i adfer yr hen fesurau caeth, yn enwedig felly gan y bardd o Ynys Môn, Goronwy Owen.
Y celfyddydau eraill ac ysgolheictod Daw pensaernïaeth y Dadeni i Gymru yn y 1570au yn yr adeiladau a godwyd yn Sir Ddinbych gan y marsiandiwr o Antwerp, Richard Clough. Yn y blynyddoedd sy’n dilyn y mae llawer o adeiladau yn yr un traddodiad yn cael eu codi. Mewn trefi megis Aberhonddu a Threfaldwyn mae wynebau’r tai yn cael eu haddurno’n gain. Lle mae gerddi ffurfiol, megis yn Aberglasni, mae gwaith tirlunio’n cael ei wneud trwy blannu coed a chreu llynnoedd. Nid oedd llawer yn cael ei gyflawni yng Nghymru o ran arlunio a cherflunio, er mae rhai o’r tirfeddianwyr yn gasglwyr o fri. Nid oes cymaint o fynd ar gerddoriaeth draddodiadol ond mae diddordeb o hyd mewn canu â’r delyn, ac mae yna egin diddordeb mewn cerddoriaeth gorawl.
Prif ysgolhaig y canol oesoedd cynnar yw Edward Lhuyd. Y mae’n sefydlu’r cysylltiad rhwng yr ieithoedd Celtaidd, ac yn damcaniaethu’n bwyllog ynglyn ag arwyddocâd henebion, botaneg a daeareg Cymru. Hybu ysgolheictod Cymreig yw un o amcanion Cymdeithas y Cymrodorion a sefydlwyd gan Gymry Llundain yn 1751.
Addysg Yng Nghymru’r canol oesoedd y mae addysg ar gael hwnt ac yma yn y mynachlogydd a chanolfannau crefyddol eraill. Y mae’r prifysgolion, yn enwedig Rhydychen, yn denu myfyrwyr o Gymru. Y mae addysgu lleygwyr yn elfen bwysig o’r Dadeni, ac mae llythrennedd o bwys mawr i’r Protestaniaid. Y cyntaf o golegau Rhydychen i’w sefydlu wedi’r Diwygiad Protestannaidd yw Coleg yr Iesu, ac yr oedd addysgu Cymry yn ganolog i’w bwrpas. Fe ddechreuodd meibion teuluoedd cefnog Cymru fynychu ysgolion bonedd yn Lloegr.
Erbyn 1603 yr oedd deunaw o ysgolion gramadeg wedi cael eu sefydlu yn nhrefi Cymru. Ychydig o ddarpariaeth sydd ar gyfer trwch y boblogaeth tan y 1650 pan mae’r Weriniaeth yn agor ysgolion ym mhob canolfan drefol yng Nghymru. Y Welsh Trust sy’n parhau â’r gwaith rhwng 1674 a 1681, a chan y Society for the Propagation of Christian Knowledge o 1700. Y mae’r Anghydffurfwyr yn sefydlu academïau, o safon uchel rhai ohonynt, i addysgu gweinidogion.
Y garreg filltir bwysig yw ymgyrch Griffith Jones, Llandowror, yn Sir Gaerfyrddin rhwng 1734 a 1771. Defnyddiodd ysgolion cylchynol - canolfannau dros dro yn canolbwyntio ar ddysgu plant ac oedolion i ddarllen. Gellir dehongli’r manylion a gyflwynodd am ei waith i olygu bod dau gan mil o bobl - tua a hanner poblogaeth Cymru - wedi dysgu darllen o ganlyniad i’w ymdrechion.
 |  | 
|