BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
Oliver Cromwell
Oliver Cromwell

Cymru a’r Senedd
Y mae aelodau seneddol o Gymru yn mynychu’r Senedd am y tro cyntaf yn 1542. Ar y dechrau maent yn gymharol dawedog, ond erbyn diwedd yr 16fed ganrif maent yn ddeheuig iawn yn gwarchod buddiannau Cymru. Ychydig sydd â’u bryd ar yrfa wleidyddol; yn hytrach maent yn ystyried bod aelodaeth o Dy’r Cyffredin yn adlewyrchu eu statws yn eu cymdeithas leol. Y mae’r mwyafrif yn cefnogi’r goron, fel yn 1642 pan gododd Charles I fyddin i herio’r Senedd.

Y Rhyfeloedd Cartref
Yn ystod y gwrthdaro y mae yna rhywfaint o gefnogaeth i’r Senedd yng Nghymru, yn enwedig yn ne Sir Benfro ac yn ardal Wrecsam. Ond nid yw’r disgrifiad o Gymru fel meithrinfa milwyr troed y brenin yn gwbl ddi-sail. Y mae’r ymgyrchoedd yng Nghymru yn ymwneud yn fwyaf arbennig â rheoli arfordiroedd y gogledd a’r de. Daw’r Rhyfel Cartref cyntaf i ben pan gipiwyd Castell Harlech ym mis Mawrth 1647. Y mae’r ail (Ebrill i Awst 1648) yn dechrau yn Sir Benfro gyda gwrthryfel y Seneddwyr. Y mae parodrwydd y brenin i fynd i ryfel eto yn selio’i dynged. Cafodd ei ddienyddio ym mis Ionawr 1649. Ac mae dau aelod seneddol Cymreig ymhlith y rhai sy’n arwyddo’r warant i’w ladd. Yn ystod y Werinlywodraeth (1649-60) mae yna ddatblygiadau ym myd crefydd ac addysg yng Nghymru. Ond ymhlith yr uchelwyr mae teyrnasiad Oliver Cromwell yn cadarnhau mai gwell ganddynt fyw o dan lywodraeth brenin.

Gwleidyddiaeth ôl-Adferiad
Adferwyd y Stiwardiaid yn 1660 pan esgynnodd Charles II i’r orsedd. Ond er yr Adferiad, y mae’r Senedd wedi cael ei ffordd, ac am ganrif a rhagor, y mae’r grym yng Nghymru yn nwylo dim mwy nag ugain o deuluoedd, sy’n rheoli cynrychiolaeth y wlad yn y Senedd. Y mae etholiadau’n cael eu trefnu gan y tirfeddianwyr sy'n llunio cytundebau preifat ymhlith eu gilydd; rhwng 1660 a 1714 mae yna fwrw pleidlais mewn llai na 10% o etholaethau Cymru. Agwedd unigolion tuag at Y Stiwardiaid sy’n llywio teyrngarwch gwleidyddol. Y mae’r Chwigiaid yn cefnogi diorseddu James II yn 1688 a gorseddu llinach frenhinol Hanofer yn 1714, a’r Torïaid yn derbyn y newidiadau hynny yn anfoddog. Erbyn canol y 18fed ganrif y mae methiant y Iacobitiaid i adfer y Stiwardiaid alltud yn golygu nad oes fawr o sail i’r gwahaniaethau rhwng y pleidiau, er mae’r tirfeddianwyr yn dal i weld eu hunain fel naill ai Chwigiad neu Dorïaid.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd

  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
    Tud 1,Tud 2.

  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
BBC
© MM


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy