 Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
 Cafwyd cynnydd ym mhoblogaeth y trefi
Y boblogaeth a’r economi Yn 1536 yr oedd tua 278,000 yn byw yng Nghymru. Y mae’r rhif yn codi i tua 360,000 yn 1620 ac efallai 500,000 erbyn 1750. Y prif resymau am y cynnydd yw dwysâd mewn setliad gwledig, y cynnydd mewn masnach am fod bywyd yn fwy sefydlog, a’r amrywiaeth cynyddol yn natur y gweithgarwch economaidd. Yn ganolog o hyd i’r economi mae magu gwartheg a defaid a phrosesu eu cynnyrch, er mae gweithfeydd plwm, glo, haearn a llu o grefftau a galwedigaethau eraill yn cynnig cyfleon economaidd newydd hefyd.
Rhaniadau dosbarth Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, o leiaf, mae’r boblogaeth yn ôl pob tebyg, yn cynyddu’n gyflymach na’r economi, ac o ganlyniad mae safonau byw y bobl yn dioddef. Y mae chwyddiant - mae prisiau’n pedryblu rhwng 1530 a 1640 - yn gwneud y sefyllfa’n waeth.
Y mae nifer y rhai heb dir yn cynyddu wrth i’r uchelwyr ychwanegu at eu hystâdau. Yn ôl pob tebyg yr oedd tua 30% o’r boblogaeth yn druenus o dlawd. Maent yn byw mewn hofelau un ystafell, heb na ffenestr na simnai, ac maent yn gorfod ufuddhau i Statud y Gweithwyr 1563, sy’n dweud bod y bobl di-eiddo’n hanfodol wasaidd. Oherwydd pryder y gallai’r sefyllfa greu ansefydlogrwydd pasiwyd Deddf y Tlodion yn 1601; mae’n rhoi’r hawl i awdurdodau’r plwyf godi trethi i gynnal y tlodion, i drefnu prentisiaeth i blant amddifad ac i gosbi dihirod segur. Mân ffermwyr a thyddynwyr yw hanner y boblogaeth.
Yn yr ardaloedd mwyaf ffafriol, megis Bro Morgannwg, mae’r tyddynnwr yn eitha cyfforddus, er yn ystod cyfnodau o newyn megis 1585-7, 1593-7 a 1620-23 mae llawer yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Y mae’r dosbarth proffesiynol, y marsiandwyr, y crefftwyr mwyaf sylweddol a’r iwmyn yn cynrychioli tua 15% o’r boblogaeth.Y mae pwer y dosbarth hwn ar gynnydd.
Erbyn y 18fed ganrif y mae yna ddosbarth canol sylweddol o ddoctoriaid, cyfreithwyr a swyddogion y llywodraeth, ac mae’r tai maent yn eu codi yn nodwedd ddeniadol yn nhrefi Cymru. Y mae’r mwyaf llwyddiannus, ymhlith y cyfreithwyr yn fwyaf arbennig, yn ceisio ymgodi, ac ymuno â’r 5% sy’n berchnogion tir. Y mae aelod o’r dosbarth uwch yn gallu dod ymlaen yn y byd mewn nifer o ffyrdd: gall briodi etifeddes, gall ymgyfoethogi yn rhinwedd ei swydd, drwy gael ffafr frenhinol neu fenter fasnachol neu - fel smyglwr neu fôr-leidr - trwy anwybyddu’r gyfraith; fe all dorri calon gwrthwynebydd llai cefnog trwy ddwyn achosion cyfreithiol yn ei erbyn; gall gymryd eiddo yr eglwys neu’r goron; gall gymryd tir trwy fygwth. Y mae’r dulliau hyn yn galluogi’r gwyr mawr i ychwanegu at eu heiddo.
Erbyn y 19eg ganrif y mae ugain o deuluoedd Cymreig yn berchen ar o leiaf ugain mil o erwau’r un, a bydd y cyfoethocaf ohonynt, y Williams Wynn o Wynnstay ger Wrecsam, yn berchen ar 150,000 o erwau.
Gwlad a thref Yn y cyfnod modern cynnar y mae Cymru gyfan yn wledig fwy neu lai. Er bod yna 54 o ganolfannau sydd â rhywfaint o statws trefol, nid ydynt ar y cyfan fawr mwy na phentrefi.
Y trefi â’r swyddogaethau llawnaf yw’r prif drefi: Caerfyrddin, Aberhonddu, Dinbych a Chaernarfon.
Y dref fwyaf yw Caerfyrddin - tua dwy fil o drigolion yn 1560 a thua phedair mil yn 1770. O ran maint mae Wrecsam yn weddol agos.
Y mae’r trefi’n tyfu wrth i bobl adael y wlad, a’r mwyafrif ohonynt yn Gymry. Felly mae’r elfen Seisnig oedd mor nodweddiadol o drefi Cymru’r Canol Oesoedd yn lleihau. Pobl y trefi, er yn lleiafrif bychan, yw elfen fwyaf deinamig y wlad. Rhwydwaith o gymunedau lleol, bychain yw’r ardaloedd gwledig. Mae cyflwr y ffyrdd yn golygu nad yw pobl yn crwydro ymhell o’u milltir sgwâr. Y mae ofergoeliaeth yn gyffredin, ac mae gan y bobl lawer o ffydd mewn triniaethau llysieuol a diodydd hudol, mewn hud a lledrith i ddelio ac ysbrydion drwg, ac mae barbareiddiwch yn dderbyniol wrth ymdrin â gwrachod.
 |  | 
|