BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Cymru a'r RhufeiniaidRhufain
Rhufain: olion cyfnod y Rhufeiniaid

Y Dylanwad Rhufeinig
Y mae Cymru’n rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig am dros dri chan mlynedd. Yn y cyfnod yna y mae arferion Rhufeinig yn cael eu derbyn yn rhannau helaeth o’r wlad. Eto, yn wahanol i’r rhan fwyaf o orllewin Ewrop, dyw Lladin y Rhufeiniaid ddim yn disodli’r iaith frodorol. Ond y mae, serch hynny, yn gadael ei ôl, ac y mae’r Frythoneg yn derbyn geiriau am bethau megis caer, ffenestri, ystafelloedd, llyfrau - geiriau sy’n cael eu trosglwyddo i’r Gymraeg. Y mae celfyddyd Rufeinig yn gadael ei farc hefyd, yn cymryd lle celfyddyd Celtaidd y Brythoniaid. Ymhlith y dosbarth uchaf o leiaf, y mae yna barodrwydd i dderbyn eu bod nhw yn Rhufeiniaid.

Faint o gysylltiad?
Baddonau Rhufeinig yng Nghaerfaddon (Bath)Eto, dros rannau helaeth o’r wlad, bach iawn yw’r dylanwad Rhufeinig. Fyddai pobl pentrefi mynyddig megis Tre’r Ceiri, yn ôl pob tebyg, ond yn dod i gysylltiad â’r ymerodraeth ar ymweliadau prin a’r farchnad y tu allan i furiau’r gaer yn Segontium (Caernarfon). Mewn mannau eraill fe fyddai’r cysylltiad yn fwy clos. Tebyg y byddai’r Brythoniaid yn gweithio ym mwyngloddiau aur Dolaucothi, yng ngwaith teils Holt a gwaith haearn Arinconium.

Dyfodiad Cristnogaeth
Roedd y byd naturiol i gyd yn gysegredig i’r Brythoniaid, ac fel y Rhufeiniaid mae ganddynt lu o dduwiau. Gyda threigl y canrifoedd y mae yna duedd i uniaethu duwiau’r Brythoniaid â rhai’r Rhufeiniaid. Ond erbyn tua 300 OC, y mae crefydd newydd yn dechrau cael gafael - Cristnogaeth. Erbyn 313 y mae Cristnogaeth wedi cydio ym mhob rhan o’r Ymerodraeth. Nid yw’n hawdd darganfod i ba raddau y mae Cristnogaeth yn lledu drwy Gymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Y mae yna esgobion ym Mhrydain erbyn 313 - un efallai yng Nghaerwent - ond rhaid aros am ymadawiad y Rhufeiniaid cyn i Gristnogaeth wir wreiddio ym mywyd y bobl.

Uchelgais y cadfridogion
Helmed RhufeinigDaw cwymp yr Ymerodraeth am nifer o resymau cymhleth. Nid lleiaf yw uchelgais arweinwyr y fyddin i fod yn ymerawdwr. Yn 383 mae Macsen Wledig (Magnus Maximus) yn ymadael â Phrydain gan fynd â’i filwyr gydag ef i ymgyrchu am y teitl.

Cymru’n ffarwelio â’r ymerodraeth
Yr un mor bwysig yw her y bobl sy’n byw y tu hwnt i ffiniau’r ymerodraeth. Yn 410 mae estroniaid yn meddiannu Rhufain, ac nid oes gan yr ymerawdwr unrhyw ddewis ond annog gwyr Prydain i’w hamddiffyn eu hunain. Y mae hynny’n gryn orchwyl. Y mae’r Pictiaid yn ymosod o’r gogledd, y Gwyddelod o’r gorllewin a’r Sacsoniaid o’r dwyrain. Nid yw ymdrechion i sicrhau annibyniaeth Brittania heb eu llwyddiannau, sy’n cynnwys anturiaethau mytholegol bron y Brenin Arthur. Ond yn y diwedd, mae’r llanw’n troi, a daw cenhedloedd y Cymry, y Saeson a’r Albanwyr i fodolaeth.

Ymlaen - tudalen nesaf


Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
    Tud 1,Tud 2,

  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
BBC
© MM


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy