BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Cymru a'r Rhufeiniaid
Amffitheatr Caerllion
Amffitheatr Caerllion

Cymru ar drothwy goresgyniad y Rhufeiniaid

Mae lluoedd Rhufain yn cyrraedd ffiniau Cymru yn 48 OC, bum mlynedd ar ôl iddynt ddechrau goresgyn Prydain. Wrth, gwrs nid yw Cymru’n bod bryd hyn mewn unrhyw ystyr ystyrlon. Mae’r bobl, fel y mwyafrif ym Mhrydain, yn siarad iaith Geltaidd, y Frythoneg, fyddai’n datblygu i’r iaith Gymraeg maes o law. Bu pobl yn byw yng Nghymru am o leiaf ddeng mil o flynyddoedd. Yn y ganrif gyntaf yr oedd o leiaf bum llwyth: y Deceangliaid yn y gogledd-ddwyrain, yr Ordoficiaid yn y gogledd-orllewin, y Demetiaid yn y de-orllewin, y Silwriaid yn y de-ddwyrain a’r Cornofiaid yn y canolbarth.

Yr ymosodiadau cynnar
GladiatorsY mae’r Rhufeiniaid yn ymosod gyntaf ar draws Afon Dyfrdwy. Y bwriad yw dod rhwng pobl ucheldir Cymru ac ucheldir y gogledd, sef gogledd Lloegr yn ddiweddarach. O ganlyniad i ymgyrch 48 mae’r Deceangliaid yn ildio. Y flwyddyn ganlynol, mae’r Rhufeiniaid yn gwahanu pobl Cymru oddi wrth bobl de orllewin Prydain drwy godi caer bwysig yng Nghaerloyw.

Y goresgyniad
Y mae milwyr Rhufain yn cael eu rhwystro gan y Silwriaid, dan arweiniad Caradog, tywysog y Catuvellauni o Essex oedd wedi’u halltudio gan y Rhufeiniaid. Yn 52 OC maent yn trechu lleng Rufeinig. Ond mae Caradog yn cael ei ddal. Bu farw yn Rhufain tua 54 OC. Chwe blynedd yn ddiweddarach y mae’r Rhufeiniaid yn ymosod ar Ynys Môn, cadarnle’r derwyddon, oedd yn hybu’r gwrthwynebiad i’r Rhufeiniaid. Erbyn 75 yr oedd y Silwriaid wedi cael eu gorchfygu, ac erbyn y 60au, ar ôl i’r Ordoficiaid gael eu trechu, mae’r cyfan o’r hyn fyddai’n Gymru a Lloegr o dan reolaeth y Rhufeiniaid.

Y drefn filwrol
Ail-greu brwydr cyfnod y RhufeiniaidY mae’r Rhufeiniaid yn rhannu eu talaith newydd, Britannia, yn ddau - y tir isel ar gyfer y boblogaeth sifil, a’r tir uchel milwrol. Codwyd caerau â lle i leng o hyd at chwe mil o ddynion yng Nghaer Efrog, Caer a Chaerllion. Yng Nghymru, rhan o’r rhanbarth filwrol, y mae o leiaf ddeg ar hugain o amddiffynfeydd atodol, o fewn taith diwrnod i’w gilydd ar hyd ffyrdd syth.

Derbyn a gwrthod
Nid yw’r caerau’n cael eu defnyddio'n llawn am amser hir gan fod mwyafrif pobl Cymru yn derbyn y drefn Rufeinig. Yr eithriad, mae’n ymddangos, yw’r Ordoficiaid yn y canolbarth a’r gogledd orllewin. Yn y Fforwm yn Rhufain heddiw y mae map mosäig anferth o’r Ymerodraeth Rufeinig; nid yw tir yr Ordoficiaid yn rhan o’r Ymerodraeth. Er bod y Silwriaid wedi herio awdurdod y Rhufeiniaid maent yn dod i fwynhau y bywyd Rhufeinig. Er mai Caerllion, yn ôl pob tebyg, yw’r lle gorau yn Ewrop i werthfawrogi cynllun caer Rufeinig, nid oedd angen cadw lleng gyfan yno ar ôl tua 120 OC.

Trefi a filâu
Y mae’r Rhufeiniaid yn sefydlu Venta Silurum (Caerwent), 12 milltir i’r dwyrain o Gaerllion fel prif dref daleithiol y Silwriad. Mae’r boblogaeth yn codi i ryw dair mil. Mae’n fersiwn bychan o Rufain, gyda’i basilica, fforwm, baddonau, temlau, y tai â’u gwres canolog, murluniau a lloriau mosäig. Mae’n bosib bod Maridinum (Caerfyrddin) yn brif dref i lwyth y Demetiaid. Rhufeinig hefyd yw’r filâu, a thai bonedd yr uchelwyr brodorol oedd wedi derbyn y drefn Rufeinig. Gwelir un yn Llanilltud Fawr, un arall yn Nhrelái ger Caerdydd ac o leiaf dri yng nghyffiniau Caerwent.

Ymlaen - tudalen nesaf


Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
    Tud 1,Tud 2,

  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
BBC
© MM


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy