
Cefndir glo Cymru
19 Ionawr 2009
Defnyddiwyd glo gan bobl ers miloedd o flynyddoedd thyfodd ei gloddio yn ddiwydiant enfawr yng Nghymru pan ar ei anterth - ond o ble y daeth yr 'aur du' yma?
Mae glo yn danwydd ffosil sydd yn cael ei greu wrth i goed a phlanhigion marw gael eu gorchuddio gan ddŵr a mwd.
Tros filoedd o flynyddoedd bydd y tymheredd a'r gwasgedd yn ffurfio mwyn cyfoethog dan ddaear.
Er mwyn cael digon o lô i gyfiawnhau ei godi o'r ddaear mae'n rhaid bod swm enfawr o blanhigion a choed wedi tyfu a marw yn y gwlyptir.
Dri chan miliwn o flynyddoedd yn ôl, a Chymru'n gorwedd yn agos iawn i'r cyhydedd, roedd yr amodau'n berffaith ar gyfer ffurfio glo.
Defnydd cynnar Defnyddiwyd glo ym Mhrydain ers yr Oes Efydd - 2,000-3,000 o flynyddoedd cyn Crist. Mae tystiolaeth iddo gael ei ddefnyddio fel rhan o goelcerthi angladdol ac fe fu'r Rhufeiniaid yn cloddio am lo ar hyd a lled Prydain.
Nid tan yr Oesoedd Canol y gwelwyd mwyngloddio ar raddfa ehangach fodd bynnag a dyma pryd y dechreuwyd sincio siafftiau yn hytrach na chrafu'r wyneb am lo-brig fel cynt.
Erbyn y 15fed ganrif, roedd pyllau glo mewn sawl rhan o Gymru - yn arbennig yn y gogledd ddwyrain a'r de. Yna, yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif, dechreuwyd allforio - yn bennaf o ardal Abertawe, Sir Benfro a Sir Y Fflint - ac fe gyflymodd y cynhyrchu.
Effaith y Chwyldro Diwydiannol Daeth y cynnydd mwyaf yn ystod y 18fed ganrif o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol a chynyddodd y galw am lo wrth i'r injan stêm ddisodli'r olwyn ddŵr.
Gwnaeth yr injan stêm hi'n bosibl i dyllu'n ddyfnach na chynt a chyrraedd haenau glo nad oedd yn bosibl eu gweithio cynt gan ei bod mor anodd cael gwared â'r dŵr o'r siafftiau.
Cyn yr injian stêm y dull oedd, ei godi mewn bwcedi - gwaith llafurus ac araf iawn o'i gymharu â'i bwmpio gydag injian.
Diwydiant
Cysylltiadau'r BBC
- Newyddion: Cefndir y streic
- Newyddion: Llinell amser y streic
- Newyddion: 'Dim rhamant na rhinwedd' - Alun Lenny, gohebydd y streic
- Coal House: Atgofion glowyr
- Newyddion: Cofeb i gofio gwaith glo'r Hafod
- BBC Lleol: lluniau o weithfeydd glo ardal Wrecsam
- BBC Lleol: Atgofion glowyr pwll y Parlwr Du
- BBC Lleol: Diwydiant crochenwaith Bwcle




