Dechreuodd ymgyrch Yma i Chi BBC Cymru gyda Diwrnod Agored ym Mona - ewch i weld lluniau'r dydd Sadwrn a'r diwrnod i ysgolion.
Roedd yr uniad dau-fis gyda BBC Cymru yn rhoi Ynys Môn o dan chwyddwydr y cyfryngau ac yn cynnwys pob un o feysydd cynnyrch BBC Cymru - teledu, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a gwasanaethau ar-lein - gan gwmpasu popeth o'r newyddion, y celfyddydau ac addysg i ddrama, cerddoriaeth a chwaraeon.
Fodd bynnag, roedd hwn yn chwyddwydr ychydig yn wahanol - oherwydd y bobl leol oedd yn arwain y ffordd. Bydd pobl leol yn cael eu gwahodd i chwarae rhan 'uniongyrchol' drwy gyfrannu at raglenni, datblygu syniadau am hanesion sy'n bwysig iddyn nhw ac ysgrifennu ar gyfer gwefannau'r BBC. Bu tîm Lleol yn cydweithio gyda grwpiau ieuenctid ar draws yr ynys i greu tudalennau am eu hardal nhw ac yn cael cymorth ysgolion cynradd yr ynys i adrodd prif chwedlau Môn ar y we.
Bu bwrdd ymgynghori o bobl leol yn datblygu syniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer allbwn BBC Cymru o'r ardal.
"Mae presenoldeb BBC Cymru yn Ynys Môn o fis Ebrill i fis Mai yn rhan o'n menter 'Yma i Chi', sy'n gweithio gyda chymunedau ym mhob cwr o Gymru," meddai'r cydlynydd Alison Quinn o BBC Cymru.
Ynys Môn yw'r pumed ardal yng Nghymru i elwa o gyfres o brosiectau cymunedol 'Yma i Chi'. Aeth y fenter ar ymweliad â Dinbych cyn symud ymlaen i Drebiwt yng Nghaerdydd ac i Gaerfyrddin y llynedd yna i Aberdâr yn Ne Cymru ym mis Ionawr eleni.
Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys popeth o ddarllediad byw o'r rhaglen rygbi Scrum V o'r clwb rygbi lleol yn Ninbych; sioe deithiol am hanes teulu - Look Up Your Genes - BBC Radio Wales a chyngherddau cerddoriaeth glasurol amser cinio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn Butetown; a chlyweliadau am ran yn yr opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm a darlledu un o raglenni BBC Radio Cymru yn fyw o dafarn leol yng Nghaerfyrddin.
Roedd pob prosiect wedi cychwyn gyda sioe deithiol 'Yma i Chi'arbennig gan BBC Cymru lle cafodd pobl leol gyfle i roi cynnig ar sgiliau fel darllen y newyddion, cyflwyno'r tywydd, a sylwebu ar chwaraeon neu i gael eu llun wedi'i dynnu wrth ochr y TARDIS o Doctor Who, sy'n cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.
Yn ogystal, roedd y dair tref wedi cynnal amrywiaeth eang o weithdai, cyngherddau a darllediadau allanol gan BBC Cymru. Bu Bws BBC Cymru ar ymweliad ag ysgolion lleol a chanolfannau cymunedol ac aeth aelodau o dimau gwe bbc.co.uk allan i weithio gyda phobl leol i'w helpu nhw i ddatblygu eu syniadau a'u cyflwyno i sylw cynulleidfa fyd-eang ar y we.
"Mae hwn yn brosiect mawr i BBC Cymru," esbonia Huw Llywelyn, un o gydlynwyr 'Yma i Chi'. "Yn ystod ein cyfnod yn Ynys Môn rydyn ni'n gobeithio ennill dealltwriaeth wirioneddol o'r ardal a'r bobl. Bydd hefyd yn galluogi gweddill Cymru i ddysgu mwy am Ynys Môn, gan y bydd yn ganolbwynt ar gyfer cymaint o'n gwasanaethau ar deledu, radio ac ar-lein."
"Rydyn ni wedi derbyn croeso cynnes a chalonogol yn Ynys Môn," ychwanegodd Alison Quinn. "Hoffwn ddiolch i'r bwrdd ymgynghori lleol am eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd wrth ein helpu ni i greu cysylltiadau agos â'r gymuned, ac rydyn ni'n gobeithio bydd y rheiny'n parhau ymhell y tu hwnt i'r tri mis o ddigwyddiadau lleol."
Gallwch gysylltu â thîm Yma i Chi BBC Cymru drwy anfon e-bost at ymaichi@bbc.co.uk neu drwy ffonio 08703 500 700.