BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llun gyda charedigrwydd Valley Stream Media Developments, Conwy a'r Gwilym Davies Aerial Photo Collection Croeso i Ynys Môn
Bu'r ynys yn adnabyddus fel Môn Mam Cymru ers y canol oesoedd, ac mae ei harddwch naturiol, ei threftadaeth a'i diwylliant yn denu'r ymwelwyr yn eu miloedd bob blwyddyn.
Mae Ynys Môn wedi ei wahanu o'r tir mawr gan yr Afon Menai, gyda dwy bont - Menai a Britannia - yn ei chysylltu. Mae dros 67,000 o bobl yn byw yma, gyda 60% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.

Ceir nifer o ynysoedd o gwmpas yr arfordir, sydd yn ymestyn 126 o filltiroedd, sef Ynys Cybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Mae Caergybi yn borthladd prysur, gyda gwasanaethau dyddiol yn hwylio i Ddulyn a Dun Laoghaire yn Iwerddon.

Llangefni yw prif dref yr ynys, a lleoliad pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn.

  • Ffeithiau difyr am Fôn
  • Sut i gyrraedd
    Cwblhawyd ffordd ddeuol yr A55 yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gan leihau'r amser teithio rhwng y tir mawr a phorthladd Caergybi. Yn ogystal mae ffordd hanesyddol yr A5 yn parhau i fod yn gyswllt pwysig.

    Mae gwasanaeth intercity dyddiol rhwng Caergybi a Llundain, ac mae trenau rheolaidd i Fanceinion a Birmingham (ffoniwch Arriva ar 08456 061660 am ragor o wybodaeth). Am fanylion y gwasanaethau bws, ffoniwch 01492 575412, neu rif y National Express, 08705 808080.

    Caergybi yw'r fynedfa i Iwerddon, gyda dau gwmni, Stena Line (ffoniwch 08705 707070) ac Irish Ferries, (08705 171717), yn hwylio i Ddulyn a Dun Laoghaire.

    Prif atyniadau
    Mae Môn yn enwog am ei thraethau enwog a'i golygfeydd godidog gyda'r bywyd gwyllt yn ei gwneud yn hafan ddelfrydol i naturiaethwyr.

    Mae atyniadau ar gyfer ymwelwyr yn amrywio o amgueddfeydd ac orielau i leoliadau hanesyddol a gweithgareddau awyr agored. Mae cyfeiriadau nifer ohonynt isod ond mae mwy o wybodaeth ar safle Atyniadau Cyngor Sir Ynys Môn.

    Cyfeiriadau defnyddiol
    Cyngor Sir Ynys Môn
    Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW 01248 750057

    Amgueddfa Plentyndod
    1, Castle St, Biwmares, Ynys Môn LL58 8AP 01248 810448

    Amgueddfa Carchar Biwmares
    Bunkers Hill, Biwmares, Ynys Môn LL58 8EP 01248 810921

    Amgueddfa Arforol Caergybi
    Ffordd y Traeth, Caergybi LL65 1YD 01407 769745

    Sw Môr
    Brynsiencyn, Ynys Môn, LL61 6TQ 01248 430411

    Tacla Taid
    Tyddyn Pwrpas, Niwbwrch, Ynys Môn, LL61 6TN 01248 440344

    Pili Palas
    Ffordd Penmynydd, Porthaethwy, LL59 5RP 01248 712474

    Parc Fferm y Foel
    Brynsiencyn, Llanfairpwll, LL61 6TQ 01248 430646

    Parc Henblas
    Bodorgan, Ynys Môn, LL62 5DL 01407 840440

    Trac Môn
    Swyddfa'r Ystad, Bodorgan, Ynys Môn, LL62 5LP 01407 840253

    Oriel Môn
    Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ 01248 724444

    Canolfan Ymwelwyr Wylfa
    Cemaes, Ynys Môn, LL67 0DH 01407 711400

    Canolfan Ucheldre
    Caergybi, Ynys Môn, LL65 1TE 01407 763 361

    Plas Newydd
    Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 6DQ 01248 714795



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy